Cyf: MB-033
Mesur Ailgylchu Arfaethedig
Gwybodaeth cyn y balot
Leanne Wood
Amcanion Polisi’r Mesur arfaethedig
Mesur yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ystyried ac adrodd ar, inter alia, effaith amgylcheddol a chymdeithasol defnydd terfynol a chyrchfan derfynol y deunyddiau ailgylchadwy a gesglir gan awdurdodau lleol.
Memorandwm Esboniadol
Mae ymchwil ddiweddar a wnaethpwyd gan Plaid wedi dangos bod nifer o gynghorau yng Nghymru yn allforio eu gwastraff yn fwriadol i’w brosesu mewn gwledydd eraill y tu allan i’r UE megis Tsieina, India a Brasil. Cyfaddefodd saith awdurdod lleol bod rhywfaint o’u gwastraff yn cael ei allforio ac nid oedd saith arall naill ai’n gwybod neu’n derbyn ei bod yn bosibl bod y gwastraff y maent yn ei gasglu ar gyfer ei ailgylchu’n cael ei allforio i wledydd y tu allan i’r DU.
Ceir pryder bod y fasnach hon yn cael ei chynnal heb wybod y costau amgylcheddol neu gymdeithasol yma a thramor, gan gynnwys defnyddio llafur plant. Nid oes llawer o ystyriaeth wedi’i rhoi i ansawdd yr ailgylchu a wneir.
Daw’r mesur hwn dan Fater 12.5 (a) i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 ac felly mae o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad.
Y Gefnogaeth a dderbyniwyd/Ymgynghori
Ni chafwyd cefnogaeth ac ni chynhaliwyd ymgynghoriad.