Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cyf: MB-036

Mesur Arfaethedig ynghylch Cyrhaeddiad Addysgol Plant sy'n Derbyn Gofal a'r Rhai sy’n Gadael Gofal

Gwybodaeth cyn y balot

David Melding

Amcanion Polisi’r Mesur arfaethedig

Amcanion polisi’r Mesur arfaethedig yw:

- caniatáu i Blant sy’n Derbyn Gofal a’r Rhai sy’n Gadael Gofal gael eu trin yn fwy ffafriol wrth ddewis Ysgolion Uwchradd

- rhoi cymorth iddynt ar gyfer tiwtora ychwanegol

- darparu mwy o grant ar gyfer addysg neu hyfforddiant ôl 16

- darparu arian ar gyfer grantiau a ffioedd cyrsiau Addysg Uwch

- darparu datganiadau unigol ddwywaith y flwyddyn am y cynnydd addysgol neu’r cynnydd gyda hyfforddiant

Cefnogaeth a dderbyniwyd

Derbyniwyd y gefnogaeth ganlynol ar gyfer y Mesur arfaethedig:

Mae Lleisiau mewn Gofal wedi croesawu’r mesur arfaethedig ac yn fodlon rhoi eu cefnogaeth. Mae amrywiaeth eang o gyrff ac ymarferwyr wedi dangos diddordeb gan gynnwys Comisiynydd Plant Cymru ac NSPCC. Rydym yn disgwyl ymatebion gan elusennau plant allweddol ar draws Cymru gan gynnwys Barnardo's Cymru ac Achub y Plant.

Ymgynghoriad

Mae'r ymgynghoriadau canlynol wedi cael eu cynnal sy'n cefnogi’r mesur.

Mae Lleisiau mewn Gofal wedi ymchwilio i’r maes hwn yn helaeth ac y mae ymatebion ar y ffordd gan y mudiadau uchod.

Rhoddodd ‘Ymgyrch Time to Care Atodiad Addysg y Times’ sylw i'r prif faterion yn 2005 ac nid yw hwn wedi’i ddisodli hyd yma.

Gan nad yw awdurdodau lleol bob amser yn cadw ffigurau penodol am gyrhaeddiad addysgol plant sy’n derbyn gofal, bydd angen cynnal rhagor o ymchwil yn y maes hwn i ddiweddaru'r data sydd ar gael.