Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cyf: MB-038

Mesur arfaethedig ynghylch Arweiniad Statudol ar gyfer Anhwylderau’r Sbectrwm Awtistig

Gwybodaeth cyn y balot

Alun Cairns

Amcanion Polisi’r Mesur arfaethedig

Mesur i greu dyletswydd newydd i gyhoeddi arweiniad statudol i awdurdodau lleol i gefnogi'r gwaith o roi’r Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig (2008) ac argymhellion y grwp Gorchwyl a Gorffen ar gefnogaeth i oedolion sydd ag awtistiaeth ar waith

Byddai’r Mesur hwn yn gosod dyletswydd newydd ar y gweinidog perthnasol i ategu Cynllun Gweithredu Strategol Cymru ar gyfer Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig (ASD), gan gynnwys argymhellion y grwp gorchwyl a gorffen a sefydlwyd gan Edwina Hart i nodi’r camau gweithredu sy’n ofynnol i wella’r gefnogaeth i oedolion sydd ag awtistiaeth, gydag arweiniad statudol ar gyfer awdurdodau lleol.

Y Gefnogaeth a dderbyniwyd/Ymgynghori

Dim ar hyn o bryd