Cyf: MB-053
Mesur arfaethedig ynghylch Asesu’r Galw am Addysg Cyfrwng Cymraeg
Gwybodaeth cyn y balot
Nerys Evans
Amcanion Polisi’r Mesur arfaethedig
Ym mis Medi 2006 cyhoeddodd Llywodraeth y Cynulliad Gylchlythyr 05/2006 – Plant a Phobl Ifanc: Gweithredu’r Hawliau. Cynlluniau Addysg Sengl 2006-08. Ymysg y gofynion oedd y canlynol:
‘Mae angen i AALI fod â threfniadau ar gyfer asesu’r galw am ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg.’
Mae cyfeiriad hefyd at asesu’r galw mewn dogfennau eraill gan Lywodraeth y Cynulliad, sef Cylchlythyr 31/2007 ‘Cynllunio ar y Cyd i wella Canlyniadau’ (Canllawiau Cynllunio a Rheoliadau i Awdurdodau Lleol a’u Partneriaid ar Gynllunio Plant ar Phobl Ifanc) a Chylchlythyr 060/2008 (Cynigion Trefniadaeth Ysgolion).
Er bod y dogfennau hyn yn argymell siroedd i fesur y galw am addysg Gymraeg, mae’n ymddangos nad oes rheidrwydd statudol arnynt i wneud hynny. Yn wir ceir enghreifftiau diweddar o AALI yn penderfynu cynnal arolwg o’r angen am addysg Gymraeg.
Nod y Mesur hwn yw gwella’r broses o gynllunio darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg trwy osod ofyniad statudol ar bob AALI i gynnal arolygon ymysg rhieni er mwyn darganfod yr angen am addysg cyfrwng Cymraeg, ac ymateb yn bositif i’r galw.
Mae cefnogaeth i’r Mesur ymysg grwpiau rhieni ac addysgwyr.
