Cyf: MB-055
Mesur arfaethedig ynghylch Cau Ysgolion (Ymgynghori a Chategorïau)
Gwybodaeth cyn y balot
Mike German
Amcanion Polisi’r Mesur arfaethedig
Byddai’r mesur hwn:
i)yn creu categori newydd o ‘amalgameiddio’ ochr yn ochr â chau er mwyn hwyluso uniad dilys rhwng ysgolion (er enghraifft, ysgol fabanod ac ysgol iau yn ysgol gynradd), gan osgoi rhai o’r camau y mae eu hangen ar gyfer cau ysgol yn llwyr;
ii)yn gofyn bod awdurdodau lleol, cyn dechrau unrhyw broses ymgynghori a allai arwain at gau ysgol, yn ystyried ac yn cyhoeddi effaith cau’r ysgol ar y gymuned; a’r dibenion cymunedol y gellid eu cyflawni mewn adeilad ysgol a gaewyd;
yn gofyn bod awdurdodau lleol yn ymgynghori â phob rhanddeiliaid, gan gynnwys pob gweithiwr addysg proffesiynol a phobl broffesiynol eraill, y rheini sy’n cynrychioli cymunedau lleol a’r rhieni a’r plant presennol yr effeithir arnynt (a, lle byddai hynny’n bosibl, rhai’r dyfodol), gan gynnwys y rheini mewn ysgolion cyfagos.
Y Gefnogaeth a dderbyniwyd/Ymgynghori
Mae hwn yn ymateb ymarferol i sylwadau a gafwyd gan y Cynulliad, fel corff, a chan aelodau unigol i sawl cynnig i gau ysgolion ledled Cymru dros yr 8 mlynedd diwethaf.
