Cyf: MB-056

Mesur Arfaethedig ynghylch Parhad o Ofal i Fywyd fel Oedolyn

Gwybodaeth cyn y balot

Ann Jones

Amcanion Polisi’r Mesur Arfaethedig

Amcan polisi'r Mesur Arfaethedig yw sicrhau, pan fydd gofal awdurdod lleol wedi llwyddo i gyflawni sefydlogrwydd ar gyfer plentyn sy'n derbyn gofal, na fydd y llwyddiant hwn yn cael ei golli oherwydd ei bod yn rhaid i'r unigolyn ifanc adael gofal ar ôl troi'n 18 oed; byddai'n ceisio disodli diwedd disymwth gofal gyda chamau graddol a fyddai'n cael eu teilwra yn ôl anghenion yr unigolyn ifanc.

Ar ben hynny, pan na lwyddwyd i sicrhau sefydlogrwydd lleoliad erbyn yr adeg y bydd yr unigolyn ifanc yn dymuno gadael gofal, yr amcan polisi yw sicrhau cymaint o barhad ag sy'n bosibl yn yr amgylchiadau penodol drwy wella'r gofynion presennol ar gyfer parhau â'r cyswllt.

Bydd y Mesur Arfaethedig yn ceisio cyflawni'r amcanion polisi drwy sefydlu:

a) diffiniadau ar gyfer lleoliadau "parhaol" a "sefydlog" at ddibenion y Mesur(1)

b) yr hawl i leoliad "parhaol" neu "sefydlog" barhau heb ei newid ar ôl pen blwydd yr unigolyn ifanc yn 18 am gyfnod y cytunir arno yng Nghynllun Llwybr yr unigolyn ifanc(2)

c) hawl i bobl ifanc rhwng 18 a 25 oed sy'n gadael lleoliad gofal "parhaol" newid y lleoliad hwnnw yn drefniant llety â chymorth neu, pan fydd gan yr unigolyn ifanc anghenion gofal parhaus, trefniant lleoliad gofal oedolyn "rhannu bywydau"

d) hawl i gael trefniant byw mewn grwp â chymorth gyda phobl ifanc eraill ar gyfer pob unigolyn ifanc sy'n gadael gofal neu lety â chymorth/trefniadau rhannu bywydau

e) hawl i gael "gofal cyswllt parhaus" gan eu gofalwr terfynol(3) ar gyfer pobl ifanc rhwng 18 a 25 oed sy'n gadael lleoliad gofal "parhaol", neu drefniant llety â chymorth/rhannu bywydau gyda'u gofalwr terfynol

f) hawl i bobl ifanc sy'n gadael lleoliad gofal "sefydlog" a hwythau'n 18 oed neu'n hyn, neu wrth adael lleoliad gofal nad yw'n "barhaol" nac yn "sefydlog" a hwythau'n 18 oed neu'n iau, enwebu unigolyn neu fudiad priodol i ddarparu'r "gofal cyswllt parhaus"

g) gofyniad i awdurdodau lleol enwebu ar gyfer pob unigolyn ifanc sy'n gadael gofal naill ai swyddog ar lefel prif swyddog neu uwch neu aelod o'r cabinet (neu gyfatebol) i fod yn gyfrifol am oruchwylio pob cyswllt parhaus gyda'r unigolyn ifanc gan neu ar ran yr awdurdod

h) gofyniad ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i (i) sefydlu rheoliadau a modelau cenedlaethol ar gyfer gofal cyswllt parhaus, trefniadau llety â chymorth a byw mewn grwp, a chynlluniau gofal oedolion rhannu bywydau, ac arweiniad diwygiedig ar ddefnyddio Cynlluniau Llwybr, a (ii) cefnogi awdurdodau lleol i weithredu'r rhain yn llawn

Cefnogaeth a dderbyniwyd

Yng nghyswllt (b) - Rhwydwaith Maethu Cymru - argymhellion i "Ofal Maeth yng Nghymru" Llywodraeth Cynulliad Cymru

Yng nghyswllt (c) - Gwasanaeth Cynghori Gofal Cenedlaethol - Argymhelliad tudalennau 30-32 “Journeys to Home: Care leavers’ successful transition to independent accommodation”

Yng nghyswllt (d) - Ymchwil/profiad Llamau

Yng nghyswllt (e/f) - Canfyddiadau tudalennau 6-7 “…Each Child Is Different” - adroddiad am arolwg cenedlaethol o agweddau at rianta corfforaethol ymysg cynghorwyr sir Cymru

Yng nghyswllt (g) - Patrwm ymarfer da

Ymgynghori

Mae Voices from Care Cymru yn ymgynghori â phlant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal drwy eu mecanweithiau presennol (disgwylir adroddiad)

Mae Rhwydwaith Maethu Cymru yn ymgynghori â gofalwyr drwy rwydweithiau presennol (disgwylir adroddiad)

Mae Llamau yn ymgynghori â phobl ifanc sy'n derbyn gofal drwy eu mecanweithiau presennol (disgwylir adroddiad)

Mae swyddfa Karen Sinclair wedi ymgynghori â'r canlynol:

  • cynghorwyr sir a oedd wedi ymateb i'r arolwg cenedlaethol ar agweddau at rianta corfforaethol

  • Cymdeithas Pobl sy'n Gadael Gofal

  • Yr Athro David Berridge (Prifysgol Bryste), yr Athro Ian Sinclair a'r Athro Mike Stein (Prifysgol Caerefrog), Zachari Duncalf (Sefydliad Gofal Preswyl i Blant yr Alban)

Crynodeb o ymatebion yr ymgynghoriad ar 03/03/10 -

Ymgynghorwyd â'r holl gynghorwyr a oedd wedi dychwelyd holiaduron yn yr arolwg gwreiddiol (322) - hyd yn hyn mae 36 (11%) wedi ymateb yn uniongyrchol: 32 yn gadarnhaol gefnogol, 4 yn niwtral a dim negyddol.  Mae'r sampl hwn yn rhy fach i gael ei ystyried yn sampl cynrychiadol ond efallai ei fod yn ddangosol - mae'n ddiddorol nodi

(a) daeth 3 o'r ymatebion cadarnhaol gan gynghorwyr a oedd yn "negyddol" ynghylch rhianta corfforaethol yn yr arolwg gwreiddiol, ac

(b) roedd 5 ymateb cadarnhaol manwl arall wedi cael eu cynnig fel safbwynt ar y cyd gyda Phenaethiaid Gwasanaeth/Prif Swyddogion yr awdurdod lleol.

Cafodd y datganiad canlynol ei basio ymlaen gan Will McMahon, Cadeirydd Cymdeithas Pobl sy'n Gadael Gofal:

Mae'r Gymdeithas Pobl sy'n Gadael Gofal yn fodlon cymeradwyo'r cynigion hyn, gan eu bod yn cynnig y gobaith i wella gwasanaethau i bobl sy'n gadael gofal yn sylweddol. Ers tro byd rydym wedi bod yn galw am wasanaethau ac ymrwymiadau fel y rhain. Rydym yn gwybod cymaint y mae angen cefnogaeth ar nifer o bobl sy'n gadael gofal os ydynt am ymdopi â'r newid anodd i fywyd fel oedolyn.

Cafwyd sylwadau cefnogol ac adeiladol gan bob un o'r ymchwilwyr academaidd canlynol ym maes polisi cymdeithasol:

Yr Athro David Berridge - Pennaeth Canolfan Polisi Teulu a Lles Plant, Prifysgol Bryste

Yr Athro Mike Stein - Athro Ymchwil, Tîm Gwaith Cymdeithasol Plant a Phobl Ifanc, Prifysgol Caerefrog, a Chynghorydd Academaidd i gynllun ymchwil "Mae Ansawdd yn Diogelu" yr Adran Iechyd

Zachari Duncalf Cymrawd Ymchwil, Sefydliad Gofal Preswyl i Blant yr Alban, Prifysgol Strathclyde

[Mae'r Athro Ian Sinclair - Athro Emeritws, Tîm Gwaith Cymdeithasol Plant a Phobl Ifanc, Prifysgol Caerefrog, wedi ymrwymo i ymateb]

Mae'r ymatebion manwl yn http://corporateparentingsurvey.info/Measures

Troednodyn:

1.Byddai "parhaol" a "sefydlog" yn golygu bod y lleoliad yn un tymor hir, yn annhebygol o chwalu, a'i fod yn galluogi'r plentyn neu'r unigolyn ifanc i wneud cynnydd priodol yng nghyswllt ei ddatblygiad; byddai "parhaol" hefyd yn golygu y byddai'r unigolyn ifanc erbyn iddo neu iddi fod yn 16 oed (neu 17 pan fydd y lleoliad yn dechrau ar ôl pen blwydd yr unigolyn yn 16) a'r gofalwr ill dau wedi dewis ymrwymo i barhau â pherthynas ar ôl pen blwydd yr unigolyn ifanc yn 18;

2. ar gyfer lleoliadau "parhaol" gellir pennu'r cyfnod er mwyn galluogi'r unigolyn ifanc i barhau i gyfranogi mewn addysg neu hyfforddiant amser llawn, neu symud ymlaen i gyflogaeth neu rywbeth cadarnhaol arall, neu er mwyn darparu cyfnod i gael mwy o aeddfedrwydd; ar gyfer lleoliadau "sefydlog" gall fod er mwyn gallu symud ymlaen i gyflogaeth a/neu ddysgu ac i lety addas, ac er mwyn gallu dod o hyd i ofalwr cyswllt parhaus ac iddo ef neu iddi hi allu dechrau ar ei waith neu ei gwaith

3. Gan gynnwys dyletswydd ar yr awdurdod lleol i ddarparu cymorth ariannol a chymorth arall priodol i'r gofalwr cyswllt parhaus

Partneriaid a Help