Cyf: MB-057
Mesur Arfaethedig ynghylch Cyflogaeth â Chymorth i Bobl sy'n Gadael Gofal
Gwybodaeth cyn y balot
Joyce Watson
Amcanion Polisi’r Mesur Arfaethedig
Amcan polisi'r Mesur arfaethedig yw adeiladu ar arfer da sydd eisoes yn bodoli i sefydlu hawl i gyflogaeth â chymorth gyda hyfforddiant ar gyfer pobl ifanc sy'n gadael gofal y wladwriaeth i fod yn oedolion pan nad ydynt wedi llwyddo i gael lle mewn addysg, hyfforddiant na chyflogaeth drwy ddulliau eraill.
Bydd y Mesur Arfaethedig yn ceisio cyflawni'r amcanion polisi drwy sefydlu:
a) Swyddogaeth statudol ar gyfer cyfarwyddyd gyrfaoedd wrth baratoi Cynlluniau Llwybr, a'r cyfle i'r Cynllun Llwybr bennu darparu cyflogaeth â chymorth os dyma fydd y nod mwyaf priodol ar gyfer yr unigolyn ifanc
b) Dyletswydd ar Awdurdodau Lleol i gydlynu partneriaid sector cyhoeddus, sector preifat a'r trydydd sector i ddarparu pecynnau cyflogaeth â chymorth wedi'u teilwra ar gyfer yr unigolyn ifanc a fydd yn cynnwys cyflogaeth â thâl gyda hyfforddiant priodol wedi'i gefnogi gan fentor mewnol a rhai o'r elfennau canlynol neu'r cwbl
Trefniadau lleoliad tai a/neu ofal parhaus hyd at 25 oed
Cefnogaeth iechyd corfforol a meddyliol
Mentor annibynnol o'r trydydd sector, chwaraeon neu ddiwylliant.
c) Dyletswydd ar Awdurdodau Lleol i ddarparu cyflogaeth â thâl pan fydd gwasanaeth llywodraeth leol yn cynnig y llwybr gyrfa mwyaf priodol fel y nodwyd yn y Cynllun Llwybr, neu pan na ellir dod o hyd i unrhyw gyfle cyflogaeth arall
d) Gofyniad ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i (i) sefydlu model cenedlaethol ar gyfer cyflogaeth â chymorth ac arweiniad statudol diwygiedig ar gyfer Cynlluniau Llwybr, a (ii) mynnu bod Awdurdodau Lleol yn eu gweithredu ac yn eu cefnogi'n llawn
Cefnogaeth a dderbyniwyd
Canfyddiadau tudalennau 6-7 “…Each Child Is Different” - adroddiad am arolwg cenedlaethol o agweddau at rianta corfforaethol ymysg cynghorwyr sir Cymru
Ystadegau ar ganlyniadau cyflogaeth ar gyfer pobl sy'n gadael gofal (gellir dod o hyd iddynt gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, Ystadegau ar gyfer Cymru)
Astudiaethau ar gyflogaeth pobl sy'n gadael gofal (gellir dod o hyd iddynt gan y Sefydliad Gofal Cymdeithasol er Rhagoriaeth, Uned Allgáu Cymdeithasol, Llywodraeth Cynulliad Cymru)
Gellir cael mwy o sylwedd ynghylch y math o ddarpariaeth y mae ei hangen o'r adroddiadau diweddar gan NCAS ac o adroddiad Swyddfa'r Cabinet, cafodd y naill a'r llall eu cyhoeddi ym mis Tachwedd 2009.
Ymgynghori
Mae Voices from Care Cymru yn ymgynghori â phlant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal drwy eu mecanweithiau presennol (disgwylir adroddiad)
Mae Rhwydwaith Maethu Cymru yn ymgynghori â gofalwyr drwy rwydweithiau presennol (disgwylir adroddiad)
Mae Llamau yn ymgynghori â phobl ifanc sy'n derbyn gofal drwy eu mecanweithiau presennol (disgwylir adroddiad)
Mae swyddfa Karen Sinclair wedi ymgynghori â'r canlynol:
cynghorwyr sir a oedd wedi ymateb i'r arolwg cenedlaethol ar agweddau at rianta corfforaethol
Cymdeithas Pobl sy'n Gadael Gofal
Yr Athro David Berridge (Prifysgol Bryste), yr Athro Ian Sinclair a'r Athro Mike Stein (Prifysgol Caerefrog), Zachari Duncalf (Sefydliad Gofal Preswyl i Blant yr Alban)
Crynodeb o ymatebion yr ymgynghoriad ar 03/03/10 -
Ymgynghorwyd â'r holl gynghorwyr a oedd wedi dychwelyd holiaduron yn yr arolwg gwreiddiol (322) - hyd yn hyn mae 36 (11%) wedi ymateb yn uniongyrchol: 32 yn gadarnhaol gefnogol, 4 yn niwtral a dim negyddol. Mae'r sampl hwn yn rhy fach i gael ei ystyried yn sampl cynrychiadol ond efallai ei fod yn ddangosol - mae'n ddiddorol nodi
(a) daeth 3 o'r ymatebion cadarnhaol gan gynghorwyr a oedd yn "negyddol" ynghylch rhianta corfforaethol yn yr arolwg gwreiddiol, ac
(b) roedd 5 ymateb cadarnhaol manwl arall wedi cael eu cynnig fel safbwynt ar y cyd gyda Phenaethiaid Gwasanaeth/Prif Swyddogion yr awdurdod lleol.
Cafodd y datganiad canlynol ei basio ymlaen gan Will McMahon, Cadeirydd Cymdeithas Pobl sy'n Gadael Gofal:
Mae'r Gymdeithas Pobl sy'n Gadael Gofal yn fodlon cymeradwyo'r cynigion hyn, gan eu bod yn cynnig y gobaith i wella gwasanaethau i bobl sy'n gadael gofal yn sylweddol. Ers tro byd rydym wedi bod yn galw am wasanaethau ac ymrwymiadau fel y rhain. Rydym yn gwybod cymaint y mae angen cefnogaeth ar nifer o bobl sy'n gadael gofal os ydynt am ymdopi â'r newid anodd i fywyd fel oedolyn.
Cafwyd sylwadau cefnogol ac adeiladol gan bob un o'r ymchwilwyr academaidd canlynol ym maes polisi cymdeithasol:
Yr Athro David Berridge - Pennaeth Canolfan Polisi Teulu a Lles Plant, Prifysgol Bryste
Yr Athro Mike Stein - Athro Ymchwil, Tîm Gwaith Cymdeithasol Plant a Phobl Ifanc, Prifysgol Caerefrog, a Chynghorydd Academaidd i Gynllun Ymchwil "Mae Ansawdd yn Diogelu" yr Adran Iechyd
Zachari Duncalf –
Cymrawd Ymchwil, Sefydliad Gofal Preswyl i Blant yr Alban, Prifysgol Strathclyde
[Mae'r Athro Ian Sinclair - Athro Emeritws, Tîm Gwaith Cymdeithasol Plant a Phobl Ifanc, Prifysgol Caerefrog, wedi ymrwymo i ymateb]
Mae'r ymatebion manwl yn http://corporateparentingsurvey.info/Measures
