Cyf: MB-034

Mesur Gwybodaeth Arfaethedig ynghylch Anghenion Addysgol Arbennig

Gwybodaeth cyn y balot

Alun Cairns

Amcanion Polisi’r Mesur arfaethedig

Bwriad y mesur yw cyflwyno darpariaeth debyg i ddarpariaethau’r Mesur Seneddol Anghenion Addysgol Arbennig (Gwybodaeth), ar gyfer plant yng Nghymru.   Mae’r Mesur Seneddol AAA (Gwybodaeth), a dderbyniodd Gydsyniad Brenhinol ar 21/07/2008, yn ymestyn i Gymru a Lloegr ond dim ond i blant Lloegr y mae’n berthnasol.

Mae’r Mesur yn gwneud dwy ddarpariaeth sylweddol drwy ddiwygio Deddf Addysg 1996.

Yn gyntaf, mae’n ei gwneud yn ofynnol i’r Ysgrifennydd Gwladol ymarfer rhai o’i bwerau yn unol â’r Ddeddf honno gyda’r bwriad o sicrhau y darperir gwybodaeth am blant yn Lloegr sydd ag anghenion addysgol arbennig a fyddai’n debygol o helpu i wella lles y plant yn Lloegr sydd ag anghenion addysgol arbennig.

Yn ail, mae’r Mesur yn gofyn bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn cyhoeddi, neu’n trefnu i gyhoeddi, gwybodaeth am blant yn Lloegr sydd ag anghenion addysgol arbennig, lle byddai cyhoeddi’r gyfryw wybodaeth yn debygol o helpu i wella lles y plant hyn.

Byddai’r Mesur hwn yn galluogi plant yng Nghymru i dderbyn buddion tebyg i’r rhai a roddir i blant yn Lloegr drwy’r Mesur Seneddol Anghenion Addysgol Arbennig (Gwybodaeth).

Y Gefnogaeth a dderbyniwyd/Ymgynghori

Ni chafwyd cefnogaeth ac ni chynhaliwyd ymgynghoriad.

Partneriaid a Help