Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cyf: LCO-001

Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig ynghylch

Awdurdodau Parciau Cenedlaethol

Kirsty Williams

Gwybodaeth cyn y balot:

Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig amlinellol

Braslun o'r Gorchymyn arfaethedig

Provision to amend Schedule 7 of the Environment Act 1995.

Amcanion Polisi’r Gorchymyn arfaethedig

Rydym yn ceisio’r pwerau i ddiwygio Atodlen 7 i Ddeddf yr Amgylchedd 1995, sy’n ymwneud ag aelodaeth, statws a chyfansoddiad Awdurdodau Parciau Cenedlaethol.

Mae’r pwer eisoes gan y Cynulliad (am i swyddogaeth yr Ysgrifennydd Gwladol gael ei throsglwyddo eisoes) i benodi aelodau i Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Cymru. Serch hynny, rydym am gael y pwerau i newid y rheolau sy’n ymwneud â’r aelodau sy’n cynrychioli awdurdodau lleol ar Awdurdodau Parciau Cenedlaethol, a hynny er mwyn mynd i’r afael â’r pryder ymhlith y cyhoedd ynghylch y diffyg democrataidd o ran Awdurdodau o’r fath. Nid oes gan y Cynulliad Gymhwysedd Deddfwriaethol yn y cyswllt hwn ar hyn o bryd ac, ar sail hynny, rydym am wneud y Gorchymyn hwn.

Ar hyn o bryd, mae’r awdurdodau lleol yn enwebu dau draean o aelodau’r Parciau Cenedlaethol a’r Cynulliad yn penodi’r traean sy’n weddill. Fodd bynnag, ar hyn o bryd, nid oes yn rhaid sicrhau bod awdurdod lleol yn penodi aelodau sydd â’u wardiau o fewn ffiniau’r Parc Cenedlaethol. Mae hyn wedi arwain at bryderon ynghylch a yw’r bobl sy’n byw yn ardal Parc Cenedlaethol yn cael eu cynrychioli mewn gwirionedd. Ymddengys bod achos dros unioni’r sefyllfa hon. Er gwybodaeth i’r Aelodau, rhaid i’r aelodau sy’n cynrychioli plwyfi ar Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Lloegr fod yn aelodau o gynghorau plwyf sydd wedi’u lleoli, o leiaf yn rhannol, o fewn ffiniau’r Parc; yn yr Alban, rhaid i’r aelodau lleol fod yn gynghorwyr sy’n cynrychioli wardiau, neu’n aelodau o gynghorau cymuned, sydd wedi’u lleoli, o leiaf yn rhannol, o fewn ffiniau’r Parc.

Efallai y byddwn hefyd am fynd i’r afael â’r mater o gynrychiolaeth ddemocrataidd yn ei hanfod, a chynnig bod aelodau’n cael eu hethol yn uniongyrchol i Awdurdodau Parciau Cenedlaethol. Byddai angen gwneud y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol hwn i alluogi’r Cynulliad i ystyried gwneud Mesur o’r fath. Er gwybodaeth i’r Aelodau, etholir un o bob pump o aelodau Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yr Alban yn uniongyrchol.

Y Gefnogaeth a Dderbyniwyd

Ar 19 Mawrth 2007, cyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru Ddatganiad Polisi ar gyfer y Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Cymru, a oedd yn cynnwys ymrwymiad i ystyried sut y gellir sicrhau bod enwebeion awdurdodau lleol yn cynrychioli wardiau sydd o fewn neu gerllaw ffiniau'r Parc.

Roedd maniffesto’r Ceidwadwyr Cymreig yn yr etholiad diwethaf yn cynnwys addewid i sicrhau bod cyfran o aelodau Byrddau Parciau Cenedlaethol yn cael ei hethol.