Cyf: LCO-002
Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig ynghylch Gwasanaethau Ieuenctid
Peter Black
Gwybodaeth cyn y balot: Y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig amlinellol
Braslun o'r Gorchymyn arfaethedig
Diwygio Maes 12 (llywodraeth leol) yn Rhan 1 o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 fel a ganlyn:
Ar ddiwedd Maes 12 llywodraeth leol mewnosoder: “Provision imposing requirements on local authorities in relation to youth services”.
Gwybodaeth cyn y balot: Memorandwm Esboniadol
Amcanion Polisi'r Gorchymyn arfaethedig
Creu Porth Cyfleoedd i bobl ifanc er mwyn cynyddu eu cyfleoedd dysgu, datblygu a chyfrannu at gymdeithas ymhellach.
Yn rhy aml, caiff pobl ifanc eu demoneiddio. Mae angen i ni eu hannog i gyflawni eu potensial, eu helpu a’u cefnogi i fanteisio ar eu galluoedd a darparu cyfleoedd i’w galluogi i wneud hynny.
Polisi allweddol i helpu pobl ifanc i gyflawni eu potensial a manteisio ar gyfleoedd fyddai rhoi sail statudol i’r gwasanaethau ieuenctid a ddarperir. Golyga hyn y bydd yn rhaid i awdurdodau lleol ateb y galw ymhlith pobl ifanc am gyfleusterau hamdden ac addysgol er mwyn eu cadw oddi ar y strydoedd a’u hannog i feithrin cysylltiadau â’i gilydd a’u cymunedau.