Cyf: LCO-003
Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig ynghylch Deddf yr Iaith Gymraeg
Eleanor Burnham
Gwybodaeth cyn y balot: Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig amlinellol
Braslun o'r Gorchymyn arfaethedig
Diwygio maes 20 (yr Iaith Gymraeg) yn Rhan 1 o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 fel a ganlyn:
Ar ôl “Field 20: Welsh language” mewnosoder “Matter 20.1 Provision to amend the Welsh Language Act 1993”.
Gwybodaeth cyn y balot: Memorandwm Esboniadol
Amcanion Polisi’r Gorchymyn arfaethedig
Rydym yn ceisio’r pwerau i ddiwygio Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 i:
- Roi statws iaith swyddogol i’r Gymraeg ochr yn ochr â’r Saesneg yng Nghymru
Mae Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 yn datgan y dylid trin y Gymraeg a'r Saesneg ar y sail eu bod yn gyfartal. Fodd bynnag, mae’r Ddeddf yn cynnwys eithriadau allweddol sy’n golygu nad yw’n cyflawni’r uchelgais hon.
Rhaid i’r mesur newydd unioni sefyllfa gyfreithiol y Gymraeg a'r Saesneg fel dwy iaith Cymru.
- Estyn hawliau unigolion a chyfrifoldebau cyrff cyhoeddus o ran defnyddio’r Gymraeg.
Pennu ac amddiffyn hawl yr unigolyn i ohebu gyda chyrff cyhoeddus yn Gymraeg.
Diweddau’r diffiniad o ‘gyrff cyhoeddus’ nad yw bellach yn berthnasol.
Ers pasio’r Ddeddf ym 1993 mae nifer o gyrff wedi symud o’r sector cyhoeddus, neu wedi diflannu’n gyfan gwbl. Rhaid i’r mesur newydd ddiweddaru’r diffiniad i adlewyrchu’r newidiadau hyn.
- Estyn pwerau Bwrdd yr Iaith Gymraeg i adlewyrchu hawliau’r unigolyn a fydd wedi’u hymgorffori o’r newydd, a hynny er mwyn diogelu hawliau’r unigolyn.
Cynnwys darpariaeth i amddiffyn hawliau’r unigolyn.
O estyn pwerau Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn y mesur newydd, a chaniatáu iddo weithredu fel Comisiynydd ac ymchwilio i gwynion gan unigolion, bydd yn amddiffyn hawliau’r rhai sy’n defnyddio’r Gymraeg.
Y Gefnogaeth a Dderbyniwyd
Yn yr etholiad cyffredinol a gynhaliwyd yng Nghymru yn 2007, ymrwymodd y Ceidwadwyr Cymreig, Plaid Cymru a Democratiaid Rhyddfrydol Cymru i gefnogi mesur iaith Gymraeg newydd, gan gynnwys y darpariaethau a restrir yma.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ymgyrchu dros gael mesur iaith Gymraeg newydd, gan gynnwys y darpariaethau a restrir yma, ers pasio Deddf yr Iaith Gymraeg 1993.