Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cyf: LCO-004

Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig ynghylch Cyllid Llywodraeth Leol

Michael German

Gwybodaeth cyn y balot: Y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig amlinellol

Braslun o'r Gorchymyn arfaethedig

Diwygio Maes 12 (llywodraeth leol) yn Rhan 1 o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 fel a ganlyn:

Ychwanegu’r materion a ganlyn at Faes 12: llywodraeth leol: “provision to amend legislation relating to local government finance in Wales”.

Gwybodaeth cyn y balot: Memorandwm Esboniadol

Amcanion polisi’r Gorchymyn arfaethedig

Mae codi treth ar gyfer llywodraeth leol, drwy’r dreth gyngor ac ardrethi busnes, yn llywio sawl agwedd ar agenda polisi cyhoeddus Cymru; yn cynnwys

  • tegwch y system ei hun,
  • effaith talu ar nifer o bobl a busnesau,
  • yr angen i ailbrisio’r dreth o bryd i’w gilydd ynghyd ag effeithlonrwydd y system gasglu,
  • yr hyn a elwir yn effaith gerio sy’n cynyddu’r dreth gyngor yn gyflymach na’r gyfradd chwyddiant gyfredol,
  • perthnasedd gwahanol ddisgowntiau a chynlluniau rhyddhad ardrethi,
  • pennu ardrethi busnesau yn lleol,
  • atebolrwydd awdurdodau lleol.

Bu’r mater hwn yn destun sawl dadl yn y Cynulliad ac yn y gymdeithas ddinesig yn gyffredinol. Bu hefyd yn destun sawl adolygiad ffurfiol gan gynnwys adolygiad cynhwysfawr Lyons sydd â chylch gwaith cyfyngedig sy’n cynnwys Cymru a’i system cyllid llywodraeth leol.

Bydd y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol yn golygu y gellir cyflwyno mesurau i ddiddymu’r dreth gyngor a chael system wahanol a thecach yn ei lle, yn seiliedig ar allu pobl i dalu. Bydd hefyd yn golygu y gellir ailbennu ardrethi busnesau yn lleol (fel y mae’r system BIDS wedi dechrau ei wneud ar yr ymylon) a chyflwyno system ad-dalu a rhyddhad ardrethi i hyrwyddo’r agendâu polisi cyhoeddus eraill yn well.

Derbyniwyd cefnogaeth gan amrywiaeth eang o ffynonellau ar gyfer diwygio’r system cyllid llywodraeth leol, a hynny mewn ffordd nad yw ond yn bosibl drwy’r Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol hwn. Mae pleidiau gwleidyddol, papurau newydd, grwpiau pensiynwyr, grwpiau lobïo sydd wedi’u creu’n arbennig, ac eraill yn y gymdeithas ddinesig naill ai am weld y dreth yn cael ei diddymu neu ei diwygio.