Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cyf: LCO-005

Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig ynghylch Mastiau Telathrebu

Sandy Mewies

Gwybodaeth cyn y balot: Y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig amlinellol

Braslun o’r Gorchymyn arfaethedig

Diwygio Maes 18 (Cynllunio gwlad a thref) o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Cymru fel a ganlyn:

To make provision for all non-emergency telecommunications masts under 15 metres in height to be brought under the full planning process.

Gwybodaeth cyn y balot: Memorandwm Esboniadol

Amcanion polisi’r Gorchymyn arfaethedig

Mae’r polisi cyfredol yn cadw’r system gymeradwyo ymlaen llaw ar gyfer mastiau telathrebu o dan 15 metr. Golyga hyn, yn wahanol i bron pob datblygiad cynllunio arall, nad oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer mastiau telathrebu o dan 15 metr. Maent yn “ddatblygiadau a ganiateir”, sy’n golygu mai dim ond cyn codi’r mast y mae angen rhoi gwybod i’r awdurdod lleol am hyn. Os bydd cwmni telathrebu’n cynnig codi mast o dan 15 metr ac nad yw’n derbyn unrhyw wrthwynebiad gan y cyngor cyn pen 56 diwrnod, ar hyn o bryd gall dybio bod ganddo “ganiatâd tybiedig” a bwrw ymlaen.

Ni chynhelir ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch mastiau o dan 15 metr, ac felly ni chlywir pryderon dilys pobl sy’n byw ac yn gweithio ar bwys y mastiau hyn. Mae hyn yn sarhad ar y broses ddemocrataidd ar lefel leol.

Yn yr un modd ag Aelodau eraill y Cynulliad, yr wyf wedi derbyn llawer o ohebiaeth gan etholwyr sy’n poeni am y mater hwn – yn unigolion ac yn grwpiau cymunedol. Ceir teimlad cryf ymhlith y cyhoedd y dylai pob mast telathrebu nad ydynt yn rhai argyfwng ac sydd o dan 15 metr o uchder fod yn destun proses gynllunio lawn.