Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cyf: LCO-006

Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig ynghylch Cynllunio Gwlad a Thref

Karen Sinclair

Gwybodaeth cyn y balot: Y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig amlinellol

Braslun o’r Gorchymyn arfaethedig

Diwygio Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006:

Maes 18: Cynllunio Gwlad a Thref

Ychwanegu mater:

  • Provision concerning the duration of planning permissions and related conditions.

Gwybodaeth cyn y balot: Memorandwm Esboniadol

Amcanion polisi’r Gorchymyn arfaethedig

Ar hyn o bryd, o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, daw caniatâd cynllunio gweithredol i ben 5 mlynedd ar ôl y dyddiad y cafodd ei roi oni wnaed unrhyw waith yn y safle dan sylw.

  • Fodd bynnag, rhoddir caniatâd cynllunio am byth i safle os bydd rhywfaint o waith wedi’i wneud.
  • Mewn rhai enghreifftiau mae hyn wedi arwain at ddibynnu ar ganiatâd cynllunio a roddwyd ar waith yn rhannol, a roddwyd nifer o flynyddol yn ôl, ar gyfer gosodiadau na fyddai’n derbyn caniatâd cynllunio o dan gyfraith cynllunio na chyfraith amgylcheddol gyfredol (fel safleoedd gwastraff neu dirlenwi).

Pam mai’r Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol yw’r cyfrwng mwyaf priodol

  • Ar hyn o bryd nid oes gan y Cynulliad unrhyw gwmpas deddfwriaethol yn y maes hwn.

Cymhwysedd deddfwriaethol cyfredol y Cynulliad

  • Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gyfrifol am fframwaith cyffredinol y system gynllunio yng Nghymru, ond ar hyn o bryd nid oes gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru unrhyw gymhwysedd deddfwriaethol i newid yr amodau sy’n sail i ganiatâd cynllunio.