Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cyf: LCO-008

Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig ynghylch Cyfraith Deiliadaeth Tai

Alun Ffred Jones

Gwybodaeth cyn y balot: Y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig amlinellol

Braslun o’r Gorchymyn arfaethedig

Cynigir bod y mater canlynol yn cael ei ychwanegu at Ddeddf Llywodraeth Cymru, atodlen 5, rhan 1, maes 11:

Darpariaeth ar gyfer ac yng nghyswllt tenantiaethau a thrwyddedau sy’n rhoi hawl i feddiannu eiddo fel cartref.

Gwybodaeth cyn y balot: Memorandwm Esboniadol

Amcanion polisi’r Gorchymyn arfaethedig

Ym mis Mai 2006, cyhoeddodd Comisiwn y Gyfraith Rhentu Cartrefi: Yr Adroddiad Terfynol. Roedd y cynigion a gynhwysid yn yr adroddiad yn ddiwygiad sylfaenol i gyfraith deiliadaeth tai yng Nghymru a Lloegr.

Cyhoeddwyd yr adroddiad cyn i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 dderbyn Cydsyniad Brenhinol. Roedd y mesur drafft felly’n seiliedig ar y setliad datganoli dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.

Dewis gyfrwng y Comisiwn i weithredu’r diwygiadau fyddai ar ffurf un Ddeddf ar gyfer Cymru a Lloegr, y naill wlad a’r llall; ond y dylai’r Ddeddf honno ymestyn cymhwysedd deddfwriaethol i ganiatáu i’r Cynulliad Cenedlaethol ddeddfu ar faterion yn ymwneud â deiliadaeth tai i’r dyfodol;

ond pe bai’r Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol naill ai’n gwrthod y cynigion yn Lloegr, neu’n rhoi blaenoriaeth bitw iddynt o ran deddfu, y dylid ceisio gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol a fyddai’n caniatáu i’r cynigion gael eu gweithredu yng Nghymru yn unig, neu yng Nghymru gyntaf.

Pwrpas y gorchymyn arfaethedig hwn yw ymestyn cymhwysedd deddfwriaethol i ganiatáu i’r Cynulliad Cenedlaethol weithredu’r cynigion yn yr adroddiad Rhentu Cartrefi.

Cefnogaeth gan Randdeiliaid

Mae rhanddeiliaid sy’n cefnogi Rhentu Cartrefi’n fras yn cynnwys Tai Cymunedol Cymru; Ffederasiwn Tenantiaid Cymru; Sefydliad Tai Siartredig Cymru, Shelter – Cyrmu a Cymorth Cymru.