Cyf: LCO-009
Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig ynghylch Digartrefedd
Janet Ryder
Gwybodaeth cyn y balot: Y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig amlinellol
Braslun o’r Gorchymyn arfaethedig
Diwygio Atodlen 5, Maes 11 Deddf Llywodraeth Cymru i ddarparu ar gyfer diwygio neu newid Rhan 7 o Ddeddf Tai 1996 ynghylch digartrefedd bwriadol.
Gwybodaeth cyn y balot: Memorandwm Esboniadol
Amcanion polisi’r Gorchymyn arfaethedig
Ers ei gyflwyno, mae’r cysyniad o ddigartrefedd bwriadol wedi bod yn fater llosg iawn ac yn un anodd iawn i Awdurdodau Lleol ei brofi. Fodd bynnag, mae pennu unigolion yn fwriadol ddigartref yn aml yn cyfrannu at fwy o allgau cymdeithasol a thlodi yn hytrach na delio ag achosion y broblem. Mae hyn yn arbennig o amlwg ymhlith pobl ifanc.
Bydd y gorchymyn:
- Yn rhoi terfyn ar ddigartrefedd bwriadol ymhlith pobl ifanc dan 25, fel y gwnaed yn yr Alban, ac fel yr argymhellwyd gan adolygiad Pwyllgor Cyfiawnder Cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru o Ddigartrefedd ymhlith Pobl Ifanc.
- Yn rhoi pwer i Awdurdodau Lleol archwilio digartrefedd bwriadol yn hytrach na’r ddyletswydd gyfredol.
- Yn rhoi mwy o gefnogaeth ac agoriadau i aelwydydd a ganfyddir yn fwriadol ddigartref er mwyn canfod llety addas a/neu eu hail-gyflwyno i lety ar rent cymdeithasol.