Cyf: LCO-012
Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig ynghylch Diogelwch Cludiant i’r Ysgol
Leanne Wood
Gwybodaeth cyn y balot: Y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig amlinellol
Braslun o’r Gorchymyn arfaethedig
Maes 5, Darparu ar gyfer gwella diogelwch Cludiant i’r Ysgol i amrywio eithriad (a) i Fater 5.10 ar gludiant i’r ysgol.
Gwybodaeth cyn y balot: Memorandwm Esboniadol
Amcanion polisi’r Gorchymyn arfaethedig
Mae’r eithriad cyfredol yn cyfyngu ar allu’r Cynulliad i bennu amodau ar gyfer defnyddio bysiau ysgol. Byddai’r gorchymyn arfaethedig yn cael gwared â’r cyfyngiad hwnnw.