Ref: LCO-015
Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig ynghylch Newid Dyletswydd Gyfredol lle bydd Awdurdodau Lleol yn Archwilio Digartrefedd Bwriadol
Mark Isherwood
Gwybodaeth cyn y balot: Y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig amlinellol
Braslun o’r Gorchymyn arfaethedig
Maes 11 i’w addasu i gynnwys darpariaeth ar gyfer ac yng nghyswllt digartrefedd bwriadol.
Gwybodaeth cyn y balot: Memorandwm Esboniadol
Amcanion polisi’r Gorchymyn arfaethedig
Y cynnig hwn yw bod y Cynulliad yn ceisio pwerau i gyflwyno Mesurau’r Cynulliad i ddiwygio neu newid cyfraith ddigartrefedd yng Nghymru, trwy geisio Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol dros ran 7 o Ddeddf Tai 1996.
Byddai’r gorchymyn yn galluogi darparu ar gyfer sefyllfa lle na fyddai hi’n ofynnol ar Awdurdodau Lleol i archwilio digartrefedd bwriadol wrth ymateb i ymgeiswyr digartref agored i niwed.
Hefyd, cynyddu’r gefnogaeth a’r agoriadau sydd ar gael i aelwydydd a ganfyddir yn fwriadol ddigartref er mwyn canfod llety addas a chynaliadwy a/neu eu hail-gyflwyno i lety ar rent cymdeithasol.
Galluogi awdurdodau lleol yng Nghymru i gael yr un gofyniad â’r rheini yn yr Alban, i beidio â gorfod profi ar gyfer digartrefedd bwriadol yng nghyswllt pobl ifanc dan 25 oed.
(Fel y cynigiwyd gan y cyn Bwyllgor Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio).
Y Gefnogaeth a Dderbyniwyd
Bu Shelter Cymru yn ymgyrchu dros hyn ac yn lobïo’r Cynulliad.
Argymhellwyd y pwynt olaf am bobl ifanc dan 25 oed gan Adroddiad y Pwyllgor Cyfiawnder Cymdeithasol ar Ddigartrefedd ymhlith Pobl Ifanc.