Cyf: LCO-017

Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig ynghylch Gofalwyr

Rhodri Glyn Thomas

Gwybodaeth cyn y balot: Y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig amlinellol

Braslun o’r Gorchymyn arfaethedig

Diwygio’r meysydd priodol yn Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 i ddarparu ar gyfer pennu gofyniad statudol ar gyrff iechyd a darparwyr gwasanaethau cymdeithasol i glustnodi gofalwyr, a hysbysu gofalwyr o’u hawliau; ac i ddarparu ymhellach yng nghyswllt llwybrau atgyfeirio i ofalwyr.

Gwybodaeth cyn y balot: Memorandwm Esboniadol

Amcanion polisi’r Gorchymyn arfaethedig

Bydd gofalwyr di-dâl yn darparu oddeutu 70% o ofal yn y gymuned, ond gall eu gofalu gael effaith niweidiol ar iechyd gofalwyr. Roedd ffigurau Cyfrifiad 2001 yn dangos bod gofalwyr sy’n darparu lefelau sylweddol o ofal ddwywaith yn fwy tebygol o fod yn ‘barhaol sâl neu anabl’ na’r rheini nad ydynt yn gofalu. Roedd canfyddiadau bwletin “Arolwg Iechyd Cymru 2003/04: Iechyd Gofalwyr”, a oedd yn archwilio iechyd gofalwyr sy’n oedolion yng Nghymru, yn cynnwys, ar gyfer oedolion iau (16-44 oed), bod y ganran a oedd yn adrodd eu bod yn cael eu trin am rai cyflyrau penodol, a’r ganran a oedd yn adrodd bod ganddynt salwch hirdymor cyfyngol, yn uwch ymhlith gofalwyr na’r rhai nad oedd yn gofalu. Yn ogystal, canfu’r arolwg bod gofalwyr sy’n oedolion iau (16-44 oed), ac yn enwedig menywod iau, yn adrodd bod ganddynt iechyd meddwl gwaeth na’r rhai nad oedd yn gofalu. Effaith fwriedig y ddeddfwriaeth hon yw gwella gallu darparwyr gwasanaethau iechyd, a darparwyr gwasanaethau cymdeithasol, i glustnodi gofalwyr, ac i roi manylion i ofalwyr am eu hawliau, a'r gwasanaethau cefnogi sydd ar gael iddynt. Mae Cynllun Gweithredu Strategaeth Gofalwyr Cymru 2007 yn nodi bod nifer o awdurdodau lleol yng Nghymru, gan weithio ochr yn ochr â BILlau a mudiadau gofalwyr, wedi cynhyrchu Pecynnau Gwybodaeth ar gyfer Gofalwyr. Fodd bynnag, mae hefyd yn nodi bod tystiolaeth bod nifer sylweddol o ofalwyr, yn enwedig y rheini o grwpiau lleiafrifol, yn gwybod fawr ddim, os o gwbl, am y gwasanaethau sydd ar gael. Effaith fwriedig y ddeddfwriaeth hon fyddai sicrhau y byddai gwybodaeth gynhwysfawr ar gael ledled Cymru.

Partneriaid a Help