Cyf: LCO-018
Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig ynghylch Peiriannau Lliw Haul
Dai Lloyd
Gwybodaeth cyn y balot: Y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig amlinellol
Braslun o’r Gorchymyn arfaethedig
Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol i ychwanegu mater at Faes 9 (Iechyd a Gwasanaethau Iechyd) er mwyn galluogi’r Cynulliad i ddarparu ar gyfer rheoleiddio parlyrau harddwch yng nghyswllt gwasanaethau lliw haul.
Gwybodaeth cyn y balot: Memorandwm Esboniadol
Amcanion polisi’r Gorchymyn arfaethedig
Mae defnyddio peiriannau lliw haul at ddibenion cosmetig yn achosi risgiau posibl i iechyd, gan gynnwys canser y croen a difrod i gornea’r llygad.
Effaith fwriedig y ddeddfwriaeth hon yw rhwystro unigolion rhag gwneud defnydd gormodol o beiriannau lliw haul a fydd yn cynyddu’r risgiau posibl i iechyd yr unigolion hynny.