Cyf: LCO-019
Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig ynghylch Gwasanaethau Bydwreigiaeth yn y Gymuned
Andrew RT Davies
Gwybodaeth cyn y balot: Y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig amlinellol
Braslun o’r Gorchymyn arfaethedig
Byddai’r Gorchymyn arfaethedig yn ychwanegu mater dan faes 9 o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, ynghylch ac yng nghyswllt darparu gwasanaethau bydwreigiaeth yn y gymuned.
Gwybodaeth cyn y balot: Memorandwm Esboniadol
Amcanion polisi’r Gorchymyn arfaethedig
Pwrpas y Gorchymyn yw caniatáu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddeddfu ynghylch ac yng nghyswllt darparu gwasanaethau bydwreigiaeth yn y gymuned. Yn benodol, byddai’r Gorchymyn yn caniatáu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru basio Mesur i sicrhau diogelwch bydwragedd sy’n gweithio yn y gymuned.