Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cyf: LCO-033

Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig ynghylch Diogelwch Tân yn y Cartref

Ann Jones

Gwybodaeth cyn y balot: Y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig amlinellol

Braslun o’r Gorchymyn arfaethedig

Darpariaeth ar gyfer sicrhau bod systemau chwistrellu dwr awtomatig yn cael eu gosod mewn pob ty newydd a adeiladir yng Nghymru.

Gwybodaeth cyn y balot: Memorandwm Esboniadol

Amcanion polisi’r Gorchymyn arfaethedig

Hoffwn weld deddfwriaeth yn cael ei chyflwyno ynghylch system chwistrellu dwr yn y cartref. Yn ddelfrydol, hoffwn iddi fod yn orfodol gosod system chwistrellu dwr ym mhob ty newydd a adeiladir yng Nghymru.  Mae’n fater o dristwch bod cannoedd o bobl yn marw a miloedd yn cael eu hanafu bob blwyddyn gan danau sy’n digwydd yn eu cartrefi.

Drwy’r byd, nid oes unrhyw un wedi marw mewn tân mewn cartref lle’r oedd system chwistrellu dwr wedi’i gosod. Felly yng Nghymru, gellir atal llawer o’r marwolaethau a’r anafiadau hyn, os nad pob un ohonynt, drwy sicrhau bod gan bobl system chwistrellu dwr a fydd yn diffodd neu’n rheoli tân, gan roi fwy o amser gwerthfawr i’r preswylydd adael ei gartref.

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn cydnabod bod prynu, gosod a chynnal a chadw larymau mwg yn rhoi munudau hollbwysig o rybudd iddynt fod tân yn eu cartref - amser i ganiatáu i breswylwyr ddianc cyn i’r tân afael. Yn ogystal â’r larymau mwg hyn, bydd system chwistrellu dwr yn y cartref yn mynd i’r afael â thân yn syth, gan oeri nwyon gwenwynig poeth a’u hatal rhag lledaenu drwy chwistrellu dwr arnynt - diffoddwr tân ym mhob cartref am ychydig iawn o gost ychwanegol i’r adeiladwr neu’r prynwr.