Cyf: LCO-034

Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig ynghylch Gwahardd Cosbi Plant yn Gorfforol

Christine Chapman

Gwybodaeth cyn y balot: Y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig amlinellol

Braslun o’r Gorchymyn arfaethedig

  • Ym Maes 25 (lles cymdeithasol) mewnosoder:
“Gwahardd cosbi plant yn gorfforol” i sicrhau: “amddiffyniad a lles plant”.

Gwybodaeth cyn y balot: Memorandwm Esboniadol

Amcanion polisi’r Gorchymyn arfaethedig

  • Byddai’r Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig yn cyflwyno rhagor o gymhwysedd deddfwriaethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ym maes Lles Cymdeithasol (Maes 15: “amddiffyniad a lles plant”)
  • Mae gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ystod eang o gyfrifoldebau sy’n ymwneud â maes lles cymdeithasol yn barod, yn enwedig yn ymwneud â phlant. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru, Awdurdodau Lleol ac asiantaethau statudol yng Nghymru eisoes yn gyfrifol am hyrwyddo a sicrhau lles plant.
  • Mae Cymru wedi datblygu dull gweithredu arbennig o ran anghenion plant yng Nghymru ac mae’r Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol hwn yn angenrheidiol felly i gyflawni ein hymrwymiad parhaus i’w hanghenion.
  • Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ymrwymo i ddiwygio’r gyfraith sy’n ymwneud â’r mater hwn er Ionawr 2004 a safodd yn egwyddorol drwy bleidleisio yn erbyn smacio yn ystod pleidlais rydd ar y mater. Ceir cefnogaeth drawsbleidiol dros waharddiad a Chymru yw’r unig wlad yn y DU sydd wedi sefyll a datgan bod cosbi plant yn gorfforol yn anghywir.
  • Ar hyn o bryd mae’r DU y tu ôl i 16 o wledydd Ewropeaidd sydd i gyd wedi gwahardd cosbi plant yn gorfforol ynghyd ag Israel a Seland Newydd. Roedd Sweden wedi gwahardd hyn 30 mlynedd yn ôl. Bu dirprwyaeth o’r Cynulliad Cenedlaethol gan gynnwys y Gweinidog yn ymweld â Sweden i weld â’u llygaid eu hunain sut y gall gwlad lwyddo i reoli dull di-drais o fagu plant.
  • Mae Cyfraith y DU ar gosbi plant yn gorfforol yn mynd yn groes i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Mae ei ddatganiad cyffredinol yn pwysleisio bod “cael gwared ar gosbi plant mewn ffordd dreisgar a ffordd sy’n bychanu, drwy ddiwygio’r gyfraith a chamau angenrheidiol eraill yn rhwymedigaeth frys a diamod” ar gyfer Aelod-wladwriaethau sydd wedi cadarnhau’r confensiwn.  
  • Mae deddfwriaeth gyfredol y DU yn ddryslyd iawn. Mae Adran 58 Deddf Plant 2004 yn caniatáu cyfiawnhau ymosod cyffredin ar blant fel “cosb resymol”. Y gwirionedd yw y gallwch daro plant cyn belled nad ydych yn gadael marc allanol. Beth am ysgwyd neu daro’r pen? Mae hyn yn anfon neges beryglus.

Y dystiolaeth:

  • Mae Adran 58 yn amwys iawn a bu cryn ddryswch ynghylch ei ystyr:
    • Mae holl Gomisiynwyr Plant y DU yn cytuno ei fod yn anghywir: ”Credwn fod cydoddef smacio’n rhwystro cynnydd. Mae’n drysu rhieni. Mae’n rhwystro amddiffyn plant ac mae’n tanseilio hyrwyddo mathau cadarnhaol o ddisgyblaeth.”
  • Mae “smacio” yn derm camarweiniol iawn sy’n awgrymu mai tap ysgafn a roddir yn dawel ac yn bwyllog ydyw, ond nid dyma sy’n digwydd mewn gwirionedd. Mae gwaith ymchwil yn dangos:
    • Os bydd plant yn dioddef trais yn y cartref gall hynny gael effaith hirhoedlog. Canfu arolwg a gynhaliwyd gan Achub y Plant y gall arwain at eu gwneud yn dreisgar tuag at eu cyfoedion.
    • Drwy drafodaethau gyda phlant, nid ydynt yn cytuno â hynny a dywedant nad yw’n dysgu unrhyw beth iddynt.
    • Ar adeg pan rydym eisiau rhoi diwedd ar fwlio mae’n ymddangos yn ddwl bod gennym safonau dwbl pan ystyrir ei bod yn dderbyniol i oedolion daro plant.
    • Nid yw’n gweithio.
  • Mae tystiolaeth gan ystod o arbenigwyr, rhieni ac asiantaethau sy’n gweithio gyda phlant i gyd yn cytuno ar y ffaith bod y ddeddfwriaeth gyfredol sydd gennym yn y DU yn anghywir ac yn aneffeithiol.
  • Nid yw hyn yn ymwneud â chosbi rhieni, ond mae’n ymwneud â’u cefnogi yn y gwaith anodd a wnânt.

Partneriaid a Help