Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cyf: LCO-036

Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig ynghylch Cynllunio Pwer Adnewyddadwy

Andrew RT Davies

Gwybodaeth cyn y balot: Y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig amlinellol

Braslun o’r Gorchymyn arfaethedig

Byddai’r Gorchymyn arfaethedig yn ychwanegu Mater dan Faes 18 o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Cymru, ynghylch ac yng nghyswllt rheolaeth gynllunio dros gyfleusterau pwer adnewyddadwy sy’n cynhyrchu dros 50 MWs.

Gwybodaeth cyn y balot: Memorandwm Esboniadol

Amcanion polisi’r Gorchymyn arfaethedig

Pwrpas y Gorchymyn yw caniatáu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddeddfu ynghylch ac yng nghyswllt cynllunio cyfleusterau pwer adnewyddadwy sy’n cynhyrchu dros 5 MWs.