Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cyf: LCO-039

Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig Statws Iaith Swyddogol  

David Melding

Gwybodaeth cyn y balot: Y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig amlinellol

Braslun o’r Gorchymyn arfaethedig

Byddai’r Gorchymyn arfaethedig yn ychwanegu Mater dan Faes 20 o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, i ddarparu ar gyfer creu Comisiynydd Ieithoedd a chaniatáu darparu ar gyfer gwneud y Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru.

Gwybodaeth cyn y balot: Memorandwm Esboniadol

Amcanion polisi’r Gorchymyn arfaethedig

Pwrpas y Gorchymyn yw caniatáu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru basio Mesur i greu Comisiynydd Iaith ac i roi statws swyddogol i’r iaith Gymraeg yng Nghymru.