Cyf: LCO-042
Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig ynghylch Defnyddio Priffyrdd gan Seiclwyr a Cherddwyr
Kirsty Williams
Gwybodaeth cyn y balot: Y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig amlinellol
Braslun o’r Gorchymyn arfaethedig
Diwygio Maes 10 (priffyrdd a thrafnidiaeth) yn Rhan 1 o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 fel a ganlyn:
Ar ôl Maes 10: priffyrdd a thrafnidiaeth mewnosoder “darpariaethau sy’n ymwneud â phriffyrdd a llwybrau eraill i seiclwyr a cherddwyr eu defnyddio ar eu pen eu hunain neu ar y cyd neu hwyluso defnyddio priffyrdd i seiclwyr a cherddwyr”.
Gwybodaeth cyn y balot: Memorandwm Esboniadol
Amcanion polisi’r Gorchymyn arfaethedig
Ceir fframwaith cyfreithiol ar gyfer datblygu Cefnffyrdd ac ar gyfer Rhwydwaith Hawliau Tramwy Cyhoeddus. Carwn weld fframwaith cyfreithiol ar gyfer llwybrau cerdded a seiclo sy’n rhoi dyletswydd ar Lywodraeth y Cynulliad i ddatblygu a chynnal rhwydwaith o lwybrau di-draffig a rennir ar gyfer cerddwyr, seiclwyr a phobl anabl ledled Cymru.
Y Cefndir
Mae llygredd o geir yn cynhyrchu 13% o holl ollyngiadau carbon Prydain. Mae’r ffigur yn tyfu, ac yn tyfu’n gynt yng Nghymru nag yng ngweddill y DU. Yn y cyfamser, mae lefelau gordewdra’n cynyddu. Yn ôl y patrymau cyfredol bydd dros hanner yr holl blant yn glinigol ordew erbyn 2050.
Er mwyn diwallu nodau Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer lefelau uwch o weithgarwch corfforol a gostyngiad blynyddol o 3% mewn gollyngiadau carbon mewn meysydd datganoledig, mae’n hanfodol lleihau lefelau traffig a chynyddu nifer y siwrneiau cerdded a seiclo a wneir.
Dengys ymchwil yn Nhrefi Arddangos Teithio Cynaliadwy Lloegr fod seiclo yn ddewis amgen ymarferol i 31% o bob siwrnai car mewn trefi – potensial mwy na cherdded (15%) a thrafnidiaeth gyhoeddus (21%). Dengys ymchwil fanwl fod 30% arall o siwrneiau ceir yn debygol o newid petai diwylliant seiclo mwy cadarnhaol yn bodoli.
Ceir dros 1,000 milltir o Rwydwaith Seiclo Cenedlaethol yng Nghymru ac yn ystod 2006 roedd cynnydd o 31 miliwn siwrnai ar y rhwydwaith yng Nghymru. Fodd bynnag, mae datblygu llwybrau a rennir o ansawdd uchel hwnt ac yma. Mae safonau cynllunio’n anghyson ac yn aml nid ydynt yn annog pobl i’w defnyddio. Mae gwaith cynnal a chadw’n achlysurol a gorfodir yr elusen trafnidiaeth gynaliadwy Sustrans i gynnal nifer o lwybrau o’u cronfeydd elusennol eu hunain.
Byddai dyletswydd gyfreithiol i ddatblygu a chynnal rhwydwaith o lwybrau oddi-ar-y-ffordd yn annog dull gweithredu mwy unffurf ac yn helpu i ddiwallu targed Dringo’n Uwch Llywodraeth y Cynulliad (targed 11) sef sicrhau bod 95% o bobl Cymru o fewn 10 munud ar droed i lwybr cerdded neu lwybr seiclo.
Y Gefnogaeth a Dderbyniwyd
Sustrans Cymru
BT
BMA Cymru
Age Concern Cymru
Chwarae Cymru
NUT Cymru
NAHT Cymru
Groundwork Cymru
WWF Cymru
Cyfeillion y Ddaear Cymru