Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cyf: LCO-043

Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig ynghylch Dangos Motiffau a Fflagiau Cenedlaethol ar Blatiau Cofrestru Cerbydau

Janet Ryder

Gwybodaeth cyn y balot: Y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig amlinellol

Braslun o’r Gorchymyn arfaethedig

Diwygio’r ddeddfwriaeth yng nghyswllt platiau cofrestru cerbydau.

Gwybodaeth cyn y balot: Memorandwm Esboniadol

Amcanion Polisi’r Gorchymyn Arfaethedig

Mae dangos motiffau a fflagiau cenedlaethol ar blatiau rhif cerbydau (ac eithrio arwyddlun yr Undeb Ewropeaidd a’r llythrennau GB) yn parhau i fod yn anghyfreithlon ledled y DU dan Ran IV, Adran 16, Rheoliadau Cerbydau’r Ffordd (Arddangos Nodau Cofrestru) 2001.

Yn fuan ar ôl i’r rheoliadau uchod ddod i rym, cynigodd Lywodraeth y DU gyflwyno diwygiadau a fyddai’n caniatáu dangos fflagiau cenedlaethol ar blatiau rhif cerbydau. Er gwaethaf ymgynghori parhaus a dymuniad i roi’r newidiadau hyn ar waith, ni wnaethpwyd unrhyw ddiwygiadau i’r ddeddfwriaeth wreiddiol. Mae un o swyddogion yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) wedi nodi, fel polisi dros dro, y cynghorwyd asiantaethau gorfodi ledled y DU i ‘weithredu’r rheoliad hwn mewn modd llac’.