Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cyf: LCO-046

Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig ynghylch Penwisgoedd Amddiffynnol ar gyfer Seiclwyr Ifanc

Joyce Watson

Gwybodaeth cyn y balot: Y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig amlinellol

Braslun o’r Gorchymyn arfaethedig

Diwygio Maes 9 (iechyd a gwasanaethau iechyd) yn Rhan 1 o Atodlen 5 i Deddf Llywodraeth Cymru 2006 fel a ganlyn:

Ar ddiwedd Maes 9 iechyd a gwasanaethau iechyd mewnosoder: “Darpariaeth sy’n gosod gofyniad i’w gwneud yn orfodol i blant dan 16 oed wisgo helmed wrth seiclo.”

Gwybodaeth cyn y balot: Memorandwm Esboniadol

Amcanion polisi’r Gorchymyn arfaethedig

Atal anafiadau a lliniaru’r perygl o anabledd a/neu anhwylder meddwl i seiclwyr ifanc yng Nghymru.

Yn 2005 anafwyd 431 o seiclwyr ar ffyrdd Cymru. Roedd 32 y cant o’r rhain rhwng 8 a 15 oed. Fodd bynnag, dengys ymchwil a gynhaliwyd gan y Bicycle Helmet Initiative Trust Research fod hyd at 85 y cant o’r holl ddamweiniau’n digwydd oddi-ar-y-ffordd, felly amcangyfrifir bod oddeutu 120 – neu nifer sy’n cyfateb i ysgol gynradd o blant – yn cael eu hanafu mewn damweiniau seiclo yng Nghymru bob blwyddyn. Dengys ymchwil a wnaethpwyd gan Headway fod 70 y cant o’r holl ddamweiniau seiclo angheuol o ganlyniad i anafiadau i’r pen a phetai damwain, profwyd bod helmedau seiclo cymeradwy safonol yn effeithiol o ran lleihau anafiadau i’r pen mewn 85 y cant o ddamweiniau seiclo.

Ym mhob gwlad a gwladwriaeth arall sydd wedi rhoi deddfwriaeth helmedau seiclo ar waith gwelwyd gostyngiad sylweddol a sydyn yn nifer yr anafiadau pen a marwolaethau cysylltiedig. Er enghraifft, wrth gymharu’r ffigurau o’r flwyddyn cyn cyflwyno’r ddeddfwriaeth a’r rheini o flwyddyn gyntaf y ddeddfwriaeth, roedd gostyngiad o 70 y cant mewn anafiadau pen a marwolaethau yn Victoria, Awstralia.

Ceir cefnogaeth glir dros gyflwyno deddfwriaeth sy’n mynnu bod plant yn gwisgo penwisg amddiffynnol wrth seiclo. Canfu arolwg diweddar o 9,000 o oedolion a gynhaliwyd gan y sefydliad arolwg barn MyVoice fod 80 y cant o oedolion yn meddwl y dylai plant wisgo helmed seiclo, ac roedd 70 y cant o bobl ifanc yn cytuno.