Cyf: LCO-048
Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig ynghylch Rheoliadau Adeiladu
Mike German
Gwybodaeth cyn y balot: Y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig amlinellol
Braslun o’r Gorchymyn arfaethedig
Diwygio Maes 18 (Cynllunio Gwlad a Thref) yn Rhan 1 o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 fel a ganlyn:
Ym Maes 18 (Cynllunio Gwlad a Thref) mewnosod: “Darpariaeth i wneud rheoliadau ynghylch dyluniad ac adeiladwaith adeiladau.”
Gwybodaeth cyn y balot: Memorandwm Esboniadol
Amcanion polisi’r Gorchymyn arfaethedig
Bydd y Gorchymyn Deddfwriaethol yn rhoi pwerau i’r Cynulliad Cenedlaethol alluogi’r Cynulliad i lunio ac i addasu rheoliadau adeiladu (fel y’u diffinnir yn Neddf Adeiladu 1984).
Bydd y pwer dros reoliadau adeiladu’n galluogi’r Cynulliad i bennu safonau amgylcheddol penodol ar gyfer pob adeilad newydd.
Bydd gofyn i Gymru wneud ei chyfraniad ei hun tuag at leihau gollyngiadau carbon wrth inni ymdrechu i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, a bydd y gallu i sicrhau bod pob adeilad newydd yn cael ei adeiladu at safonau carbon niwtral yn chwarae rhan hollbwysig yn helpu Cymru i leihau ei gollyngiadau carbon.
Ymgynghori a Chefnogaeth
Ddydd Mawrth 13 Chwefror 2007, cyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru ddatganiad polisi yn amlinellu rhaglen weithredu i fynd i'r afael a delio â newid yn yr hinsawdd. Roedd y rhaglen hon yn cynnwys cyflawni lefelau carbon sero ar gyfer pob adeilad newydd erbyn 2011. Ategwyd y dyhead hwn wedi hynny gan y Prif Weinidog ers etholiadau’r Cynulliad.