Cyf: LCO-049
Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig ynghylch Digartrefedd Bwriadol
Peter Black
Gwybodaeth cyn y balot: Y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig amlinellol
Braslun o’r Gorchymyn arfaethedig
Mewnosod y mater canlynol ym Maes 11 o Atodlen 5:
“Digartrefedd, darpariaethau sy’n ymwneud ac sy’n gysylltiedig â, digartrefedd”.
Gwybodaeth cyn y balot: Memorandwm Esboniadol
Amcanion polisi’r Gorchymyn arfaethedig
Mae hwn er mwyn newid dyletswydd awdurdod lleol i archwilio a yw aelwyd yn fwriadol ddigartref yn bwer, ond pan ganfyddir bod aelwyd yn fwriadol ddigartref dan y pwer hwn rhaid i ymgeiswyr hefyd gael llety a chefnogaeth am hyd at flwyddyn i geisio datrys y rhesymau dros fod yn fwriadol ddigartref.
Pwrpas hyn yw sicrhau mai’r unig adeg yr archwilir digartrefedd bwriadol yw pan geir posibilrwydd cryf bod y rheini sydd dan archwiliad wedi gweithredu mewn ffordd sy’n fwriadol esgeulus ac mai eu hymddygiad yw gwir achos eu digartrefedd. Byddai’r polisi hwn hefyd yn sicrhau nad oherwydd digartrefedd bwriadol y mae nifer yn syrthio trwy’r rhwyd i lety dros-dro gwael a digartrefedd mwyach, ond yn hytrach daw’n agwedd adeiladol arall ar atal digartrefedd. Byddai’r polisi hefyd yn dileu’r posibilrwydd o awdurdodau lleol yn defnyddio digartrefedd bwriadol fel cyfrwng i gefnu ar eu cyfrifoldeb dros y rheini y mae angen y mwyaf o gefnogaeth arnynt, yn lle hynny, bydd unigolion yn cael cefnogaeth a chyfle i newid yr ymddygiad sydd wrth wraidd y broblem.
Mae angen cymhwysedd deddfwriaethol ar y Cynulliad yn y maes hwn gan ein bod eisoes wedi sicrhau datblygu ein hagwedd unigryw ein hunain tuag at ddigartrefedd, gan gynnwys cynhyrchu Strategaeth Ddigartrefedd Genedlaethol, fel rhan o ystod o fesurau a gynlluniwyd i fynd i’r afael â’r broblem. Bydd y Gorchymyn Deddfwriaethol hwn yn hwyluso dilyniant naturiol gwaith y Cynulliad o lunio polisi o fewn y maes hwn a chaniatáu inni ddatblygu ein polisïau digartrefedd unigryw.
Cefnogaeth a dderbyniwyd
Shelter Cymru
Ymgynghoriad
‘Bwriadau Clir’, a gynhyrchwyd gan Shelter Cymru