Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cyf: LCO-051

Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig ynghylch Llwybrau Cerdded a Seiclo

Mick Bates

Gwybodaeth cyn y balot: Y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig amlinellol

Braslun o’r Gorchymyn arfaethedig

Byddai’r Gorchymyn arfaethedig yn gwneud darpariaeth ar gyfer fframwaith cyfreithiol sy’n ymwneud â datblygu a chynnal a chadw llwybrau di-draffig ledled Cymru sy’n ystyried anghenion pob defnyddiwr.

Gwybodaeth cyn y balot: Memorandwm Esboniadol

Amcanion Polisi’r Gorchymyn Arfaethedig

Ceir fframwaith cyfreithiol ar gyfer datblygu Cefnffyrdd ac ar gyfer rhwydwaith Hawliau Tramwy Cyhoeddus.  Carwn weld fframwaith cyfreithiol ar gyfer llwybrau cerdded a seiclo sy’n rhoi dyletswydd ar Lywodraeth y Cynulliad i ddatblygu a chynnal rhwydwaith o lwybrau di-draffig ledled Cymru ar gyfer pob defnyddiwr megis cerddwyr, beicwyr a phobl anabl. Sylwer: yn y cyswllt hwn, mae di-draffig yn golygu dim cerbydau modur.

Y cefndir

Mae llygredd o geir yn cynhyrchu 13% o holl allyriadau carbon Prydain.  Mae’r ffigur yn tyfu, ac yn tyfu’n gynt yng Nghymru nag yng ngweddill y DU.  Yn y cyfamser, mae lefelau gordewdra’n cynyddu.  Yn ôl y patrymau cyfredol bydd dros hanner yr holl blant yn glinigol ordew erbyn 2050.

Er mwyn diwallu nodau Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer lefelau uwch o weithgarwch corfforol a gostyngiad blynyddol o 3% mewn allyriadau carbon mewn meysydd datganoledig, mae’n hanfodol lleihau lefelau traffig a chynyddu nifer y siwrneiau cerdded a seiclo a wneir.

Dengys ymchwil yn Nhrefi Arddangos Teithio Cynaliadwy Lloegr fod seiclo yn ddewis amgen ymarferol i 31% o bob siwrnai car mewn trefi – potensial mwy na cherdded (15%) a thrafnidiaeth gyhoeddus (21%).  Dengys ymchwil fanwl fod 30% arall o siwrneiau ceir yn debygol o newid petai diwylliant seiclo mwy cadarnhaol yn bodoli.

Ceir dros 1,000 milltir o Rwydwaith Seiclo Cenedlaethol yng Nghymru ac yn ystod 2006 roedd cynnydd o 31 miliwn siwrnai ar y rhwydwaith yng Nghymru. Fodd bynnag, mae datblygu llwybrau a rennir o ansawdd uchel hwnt ac yma.   Mae safonau cynllunio’n anghyson ac yn aml nid ydynt yn annog pobl i’w defnyddio.  Mae gwaith cynnal a chadw’n achlysurol a gorfodir yr elusen trafnidiaeth gynaliadwy Sustrans i gynnal nifer o lwybrau o’u cronfeydd elusennol eu hunain.

Byddai dyletswydd gyfreithiol i ddatblygu a chynnal rhwydwaith o lwybrau oddi-ar-y-ffordd yn annog dull gweithredu mwy unffurf ac yn helpu i ddiwallu targed Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer lleihau allyriadau carbon 3% bob blwyddyn a’i tharged Dringo’n Uwch (targed 11) sef sicrhau bod 95% o bobl Cymru o fewn 10 munud ar droed i lwybr cerdded neu lwybr seiclo.

Y GEFNOGAETH A DDERBYNIWYD

Deiseb yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i geisio pwerau i roi dyletswydd ar Lywodraeth y Cynulliad i ddatblygu a chynnal rhwydwaith o lwybrau di-draffig a rennir ar gyfer cerddwyr, beicwyr a phobl anabl ledled Cymru, fel y nodir yn y Gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol arfaethedig, a gyflwynwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 17 Hydref 2007.

http://www.cynulliadcymru.org/bus-home/bus-committees/bus-committees-third-assem/bus-committees-third-pc-home/bus-committees-third-pc-agendas.htm?act=dis&id=67285&ds=12/2007