Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cyf: LCO-052

Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig ynghylch Gwasanaethau Iechyd yn y Gymuned

Andrew RT Davies

Gwybodaeth cyn y balot: Y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig amlinellol

Braslun o’r Gorchymyn arfaethedig

Byddai’r Gorchymyn arfaethedig yn caniatáu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddeddfu ynghylch darparu gwasanaethau iechyd cymunedol ac yng nghyswllt hynny.

Gwybodaeth cyn y balot: Memorandwm Esboniadol

Amcanion polisi’r Gorchymyn arfaethedig

Pwrpas y Gorchymyn yw caniatáu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddeddfu ynghylch ac yng nghyswllt darparu gwasanaethau iechyd yn y gymuned.  Yn benodol, byddai’r Gorchymyn yn caniatáu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru basio Mesur i sicrhau diogelwch gweithwyr iechyd sy’n gweithio yn y gymuned.