Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cyf: LCO-053

Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig ynghylch Gwarchod Coed a Choetiroedd

Mohammad Asghar

Gwybodaeth cyn y balot: Y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig amlinellol

Braslun o’r Gorchymyn arfaethedig

Mewnosod mater newydd ym Maes 18 (Cynllunio Gwlad a Thref) – Gwarchod a diogelu coed a choetiroedd

Gwybodaeth cyn y balot: Memorandwm Esboniadol

Amcanion polisi’r Gorchymyn arfaethedig

I sicrhau pwerau er mwyn i’r Cynulliad gryfhau a symleiddio deddfwriaeth Gorchmynion Gwarchod Coed yng Nghymru.  Mae’r ddeddfwriaeth yn Lloegr eisoes yn cael ei newid dan y ddeddf diwygio cynllunio.  

Dangoswyd bod bylchau mawr yn y system gyfredol ar gyfer diogelu coed unigol yng Nghymru drwy orchmynion gwarchod coed. Mae’r rhain wedi arwain at golli coed nodedig a oedd yn gynefin bywyd gwyllt gwerthfawr, sy’n bwysig i dirwedd a threfwedd Cymru, ac sydd i gyd yn rhan o’n treftadaeth genedlaethol. Ar yr un pryd, ceir cyfleoedd i symleiddio’r system, er mwyn osgoi biwrocratiaeth ddianghenraid mewn rhai achosion.