Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cyf: LCO-055

Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig Hybu Bwydo o’r Fron

Nerys Evans

Gwybodaeth cyn y balot: Y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig amlinellol

Braslun o’r Gorchymyn arfaethedig

Ychwanegu mater newydd ym Maes 9 (Iechyd a Gwasanaethau iechyd) – i ddarparu i osod dyletswydd statudol ar sefydliadau iechyd i gynllun gwaith.

Gwybodaeth cyn y balot: Memorandwm Esboniadol

Amcanion polisi’r Gorchymyn arfaethedig

Dylid gosod cyfrifoldeb statudol ar sefydliadau iechyd y GIG yng Nghymru sy’n darparu gwasanaethau’n uniongyrchol i gleifion er mwyn sefydlu system staffio sy’n darparu’r nifer iawn o nyrsys cofrestredig i sicrhau lefelau staffio priodol ar gyfer gofal cleifion. Dylai proses cynllunio’r gweithlu ystyried yr amcangyfrif o’r gweithlu delfrydol y mae ei angen. Gellir asesu hyn drwy wybodaeth leol gan sefydliadau iechyd a gwybodaeth gan y polisi strategol cenedlaethol.