Cyf: LCO-056
Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig ynghylch Mynediad at Beiriannau ATM
Bethan Jenkins
Gwybodaeth cyn y balot: Y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig amlinellol
Braslun o’r Gorchymyn arfaethedig
Bydd y Gorchymyn hwn yn gofyn am ddiwygio Maes 12 yn Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Cymru i ddarparu ar gyfer hwyluso mynediad at Beiriannau ATM mewn cymunedau incwm isel.
Gwybodaeth cyn y balot: Memorandwm Esboniadol
Amcanion polisi’r Gorchymyn arfaethedig
Ychydig o fynediad at beiriannau ATM sydd gan nifer o gymunedau yng Nghymru.
Pwrpas y Gorchymyn hwn yw gwneud teuluoedd incwm isel yn llai agored i gael eu hallgáu ac wynebu dyled drwy sicrhau bod ganddynt y cyfle gorau posibl i gael mynediad at beiriannau arian parod heb wynebu ffioedd nad ydynt yn gallu eu fforddio.
Mae’r gost o ddarparu peiriannau ATM yn amhosibl o ddrud mewn rhai ardaloedd. Gellid lliniaru’r gost drwy ddad-drethu eiddo neu rannau o eiddo lle bod angen i’r peiriant ATM a ddarperir gysylltu â’r ardaloedd dan sylw. Cymerwyd camau o’r fath yn yr Alban.