Cyf: LCO-057
Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig ynghylch Caniatâd Tybiedig i Roi Organau
Nerys Evans
Gwybodaeth cyn y balot: Y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig amlinellol
Braslun o’r Gorchymyn arfaethedig
Darparu ar gyfer ac yng nghyswllt rhoi organau er mwyn atal, trin a lliniaru clefydau.
Gwybodaeth cyn y balot: Memorandwm Esboniadol
Amcanion Polisi’r Gorchymyn Arfaethedig
Bydd o leiaf un unigolyn yn marw bob dydd wrth aros am drawsblaniad organ. Ar yr un pryd, caiff cyrff eu claddu neu eu hamlosgi gydag organau y gellid bod wedi eu defnyddio i achub bywydau, nid oherwydd bod y sawl a fu farw yn gwrthwynebu rhoi ond nad oeddent wedi cofrestru ar y Gofrestr Rhoi Organau nac wedi rhoi gwybod i’w perthnasau eu bod yn dymuno gwneud hynny.
Mae gwir angen cynnydd yn nifer y rhoddwyr felly. Byddai system o ganiatâd tybiedig ar gyfer oedolion lle tybir bod pobl yn fodlon rhoi eu horganau ar ôl iddynt farw oni bai eu bod yn dewis peidio, yn chwarae rhan bwysig o ran gwella’r system rhoi organau er mwyn gallu achub rhagor o fywydau. Byddai system o’r fath yn golygu nodi rhai cafeatau.