Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cyf: LCO-058

Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig ynghylch Trefniadau Etholiadol Llywodraeth Leol

Peter Black

Gwybodaeth cyn y balot: Y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig amlinellol

Braslun o’r Gorchymyn arfaethedig

Mewnosod y mater canlynol ym Maes 12 Atodlen 5 – “Y trefniadau ar gyfer ethol aelodau awdurdodau lleol a’r system etholiadol a ddefnyddir i’w hethol”.

Gwybodaeth cyn y balot: Memorandwm Esboniadol

Amcanion polisi’r Gorchymyn arfaethedig

Mae hwn yn orchymyn i newid y system etholiad a ddefnyddir i ethol Cynghorwyr i awdurdodau lleol yng Nghymru.

Pwrpas hwn yw caniatáu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru bennu’r dull etholiad y gwêl sydd orau ar gyfer anghenion awdurdodau lleol Cymru a’u hetholwyr. Ar hyn o bryd mae pob awdurdod lleol yng Nghymru yn defnyddio’r system etholiadol ‘Y Cyntaf i’r Felin’. Cydnabuwyd nad dyma’r ffordd fwyaf gynrychioladol o ethol aelodau, sef y rheswm pam nad yw’r Cynulliad Cenedlaethol yn defnyddio’r system honno’n unig ar gyfer ethol ei aelodau ei hun.

Yn 2002 argymhellodd adroddiad y Comisiwn ar Drefniadau Etholiadol Llywodraeth Leol yng Nghymru y dylid cyflwyno’r system Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy erbyn etholiadau llywodraeth leol yn 2008. Cefnogwyd hyn gan saith Comisiynydd. Yr oedd dau Gomisiynydd yn credu y dylai awdurdodau lleol yng Nghymru barhau i gael eu hethol drwy ddefnyddio’r system y Cyntaf i’r Felin ond y dylid newid y ffiniau er mwyn i bob adran etholiadol ethol un aelod yn unig, yn hytrach na’r sefyllfa gyfredol lle bydd pob adran yn ethol rhwng un a phum aelod. Nid oes yr un o’r argymhellion hyn wedi cael eu rhoi ar waith. Byddai’r gorchymyn hwn yn rhoi cyfle i’r Cynulliad Cenedlaethol benderfynu pa ddewis sydd fwyaf addas i anghenion Cymru a gweithredu’r newidiadau erbyn etholiadau Llywodraeth Leol 2012.  

Mae angen cymhwysedd deddfwriaethol ar y Cynulliad yn y maes hwn er mwyn gweithredu argymhellion Adroddiad 2002 y Comisiwn ar Drefniadau Etholiadol Llywodraeth Leol yng Nghymru. Drwy ein proses etholiadol ein hunain yr ydym wedi cydnabod bod diffygion sylfaenol gyda’r system y Cyntaf i’r Felin. Nid yw’r Gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol hwn yn argymell pa system y dylid ei defnyddio, ond mae’n rhoi’r pwer i’r Cynulliad Cenedlaethol wneud a gweithredu’r system sydd fwyaf addas yn ei farn ef.