Cyf: LCO-059
Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig ynghylch Darparu Toiledau Cyhoeddus
Jenny Randerson
Gwybodaeth cyn y balot: Y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig amlinellol
Braslun o’r Gorchymyn arfaethedig
Mewnosod Mater newydd:
Darpariaethau yng nghylch ac yng nghyswllt darparu a chynnal cyfleusterau toiledau cyhoeddus.
Gwybodaeth cyn y balot: Memorandwm Esboniadol
Amcanion Polisi’r Gorchymyn Arfaethedig
- Mae’r Gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol hwn yn ceisio ffordd o ddarparu a chynnal nifer derbyniol o Doiledau Cyhoeddus yng Nghymru.
- Ar hyn o bryd nid oes cyfrifoldeb o’r fath ar unrhyw un i wneud hyn a phur anaml y caiff ei weld fel blaenoriaeth oherwydd galwadau ariannol sy’n fwyfwy tynn a chystadleuol.
- Mae mynediad at doiledau diogel a glân yn flaenoriaeth allweddol i nifer o ymwelwyr â chanol trefi ac atyniadau i dwristiaid.
- Ar hyn o bryd ceir anghydraddoldeb mynediad at doiledau cyhoeddus ar gyfer menywod, yr henoed, pobl ag anghenion arbennig a phlant.
- Mae’r ddeddfwriaeth gyfredol fwyaf perthnasol yn dyddio’n ôl i 1936 (Deddf Iechyd Cyhoeddus)
- Ar hyn o bryd nid oes cymhwysedd deddfwriaethol.
- Byddai Gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol yn caniatáu i’r Cynulliad ddadlau a llunio mesurau i ddiweddaru’r ddeddfwriaeth gyfredol ar gyfer Cymru.