Cyf: LCO-023
Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig ynghylch Digartrefedd
Lesley Griffiths
Gwybodaeth cyn y balot: Y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig amlinellol
Braslun o’r Gorchymyn arfaethedig
Mae’r Cynulliad yn ceisio pwerau dan Faes 11 i gyflwyno Mesurau’r Cynulliad i ddiwygio neu newid cyfraith ddigartrefedd yng Nghymru trwy geisio Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol dros ran 7 o Ddeddf Tai 1996.
Gwybodaeth cyn y balot: Memorandwm Esboniadol
Amcanion polisi’r Gorchymyn arfaethedig
Fel Aelod Cynulliad, byddaf yn delio ag unigolion a bennwyd yn fwriadol ddigartref. Ar hyn o bryd, mae hi’n ddyletswydd ar Awdurdodau Lleol i archwilio achosion o ddigartrefedd bwriadol. Gellid defnyddio’r Gorchymyn hwn i ddisodli’r ddyletswydd gyfredol hon i archwilio digartrefedd bwriadol â phwer nad oes raid iddynt ei ddefnyddio wrth ymateb i geiswyr digartref agored i niwed. Hefyd, gallai’r Gorchymyn hwn arwain at gynyddu’r gefnogaeth a roddir i aelwydydd a ganfyddir yn fwriadol ddigartref yn ogystal â chreu mwy o gyfleoedd iddynt ganfod llety addas a chynaliadwy a’u cefnogi i ail-feddiannu llety ar rent cymdeithasol, os ydynt yn dymuno hynny.