Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cyf: LCO-024

Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig ynghylch Gwerthu Isblotiau Coetir

Elin Jones

Gwybodaeth cyn y balot: Y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig amlinellol

Braslun o’r Gorchymyn arfaethedig

Bydd y Gorchymyn hwn yn gofyn am ddiwygio Maes 18 yn Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Cymru i ddarparu ar gyfer ac ynghylch hawliau datblygu a ganiateir “at ddibenion coedwigaeth”.

Gwybodaeth cyn y balot: Memorandwm Esboniadol

Amcanion polisi’r Gorchymyn arfaethedig

Mae isrannu plotiau coetir wedi dod yn arfer cynyddol gyffredin a phroffidiol mewn sawl rhan o Gymru.  Gwyddys bod yr arfer hwn, sydd heb ei reoleiddio, yn cynyddu’r risg o ddifrodi a diraddio coetir.  

Mae datblygwyr plotiau’n camfanteisio ar fylchau yn y Gorchymyn Datblygu Cyffredinol a Ganiateir ac yn osgoi rheolau cynllunio.  Mae Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir)1995 yn caniatáu i bobl sy’n ymwneud â gwaith “coedwigaeth” gyflawni gweithgarwch a gwaith cyfyngedig heb ganiatâd cynllunio, ar yr amod eu bod yn rhoi rhagrybudd o’r bwriad i wneud hynny.

Nid yw’r term “coedwigaeth” yn cael ei ddiffinio mewn na deddfwriaeth sylfaenol nac mewn unrhyw is-ddeddfwriaeth, gan gynnwys y Gorchymyn Datblygu Cyffredinol a Ganiateir.  Nid oes unrhyw sail a brofwyd yn gyfreithiol lle gall awdurdodau cynllunio herio neu wrthod honiad bod y gwaith datblygu’n hanfodol ar gyfer creu seilwaith isblot “at ddibenion coedwigaeth”.

Bydd y Gorchymyn yn cau bylchau cyfredol yn y Gorchymyn Datblygu a Ganiateir trwy:

Alluogi i’r term “at ddibenion coedwigaeth” gael ei ail-ddiffinio i gategoreiddio’r gwahanol ffyrdd y gellid defnyddio coetir, er mwyn pennu lefel briodol o hawliau datblygu a ganiateir.  Ni fydd hyn yn amharu ar hawliau cyfredol perchnogion coetir nac ar greu a chynnal cynefin coetir newydd neu gyfredol.