Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cyf: LCO-025

Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig ynghylch Hwyluso Mynediad at Wasanaethau Ariannol

Christopher Franks

Gwybodaeth cyn y balot: Y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig amlinellol

Braslun o’r Gorchymyn arfaethedig

Bydd y Gorchymyn hwn yn gofyn am ddiwygio Maes 12 yn Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Cymru i ddarparu ar gyfer hwyluso mynediad at Beiriannau ATM mewn cymunedau incwm isel.

Gwybodaeth cyn y balot: Memorandwm Esboniadol

Amcanion polisi’r Gorchymyn arfaethedig

Ychydig o lwybrau at beiriannau ATM sydd gan sawl cymuned yng Nghymru.

Pwrpas y Gorchymyn hwn yw gwneud teuluoedd incwm isel yn llai agored i gael eu hallgau a wynebu dyled trwy sicrhau bod ganddynt y cyfle gorau posibl i gael llwybr at beiriannau arian parod heb wynebu ffioedd nad ydynt yn gallu eu fforddio.

Mae’r gost o ddarparu peiriannau ATM yn amhosib o ddrud mewn rhai ardaloedd.  Gellid lliniaru’r gost trwy ddad-drethu eiddo neu rannau o eiddo lle bod angen i’r peiriant ATM a ddarperir gysylltu â’r ardaloedd dan sylw.  Cymerwyd camau o’r fath yn yr Alban.