Cyf: LCO-027
Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig ynghylch Comisiynydd Iaith
Brynle Williams
Gwybodaeth cyn y balot: Y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig amlinellol
Braslun o’r Gorchymyn arfaethedig
Byddai’r Gorchymyn arfaethedig yn ychwanegu Mater dan Faes 20 o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, i ddarparu ar gyfer creu Comisiynydd Iaith a chaniatáu darparu ar gyfer gwneud y Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru.
Gwybodaeth cyn y balot: Memorandwm Esboniadol
Amcanion polisi’r Gorchymyn arfaethedig
Pwrpas y Gorchymyn hwn yw caniatáu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru basio Mesur i greu Comisiynydd Iaith ac i roi statws swyddogol i’r iaith Gymraeg yng Nghymru.