Cyf: LCO-041
Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig ynghylch Caniatâd Tybiedig i Roi Organau
Dai Lloyd
Gwybodaeth cyn y balot: Y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig amlinellol
Braslun o’r Gorchymyn arfaethedig
Darparu i dybio y rhoddir caniatâd priodol ar gyfer y gweithgareddau a amlinellir yn Adran 1 (1) (c) Deddf Meinwe Dynol 2004 er mwyn atal afiechyd mewn oedolion.
Gwybodaeth cyn y balot: Memorandwm Esboniadol
Amcanion polisi’r Gorchymyn arfaethedig
Bydd o leiaf un unigolyn yn marw bob dydd wrth aros am drawsblaniad organ. Ar yr un pryd, caiff cyrff eu claddu neu eu hamlosgi gydag organau y gellid bod wedi eu defnyddio i achub bywydau, nid oherwydd bod y sawl a fu farw yn gwrthwynebu rhoi ond nad oeddent wedi cofrestru ar y Gofrestr Rhoi Organau nac wedi rhoi gwybod i’w perthnasau eu bod yn dymuno gwneud hynny.
Mae gwir angen cynnydd yn nifer y rhoddwyr felly. Byddai system o ganiatâd tybiedig ar gyfer oedolion lle tybir bod pobl yn fodlon rhoi eu horganau ar ôl iddynt farw oni bai eu bod yn dewis peidio, yn chwarae rhan bwysig o ran gwella’r system rhoi organau er mwyn gallu achub rhagor o fywydau. Byddai system o’r fath yn golygu nodi rhai cafeatau.
Byddai’r Gorchymyn hwn yn gofyn am ddiwygio Atodlen 5 o Faes 9 Rhan 1 i Ddeddf Llywodraeth Cymru.