Cyf: LCO-044
Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig ynghylch Darparu Gwasanaethau Bysiau a Choetsys
Huw Lewis
Gwybodaeth cyn y balot: Y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig amlinellol
Braslun o’r Gorchymyn arfaethedig
Ychwanegu’r mater a ganlyn at Faes 10 ( Priffyrdd a Thrafnidiaeth):
Darparu gwasanaethau bysiau a choetsys.
Gwybodaeth cyn y balot: Memorandwm Esboniadol
Amcanion polisi’r Gorchymyn arfaethedig
Defnyddir y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol hwn i gyflwyno ethos gwasanaeth cyhoeddus i ddarpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus, gan fynnu bod yn rhaid i bob awdurdod lleol sicrhau y gwasanaethir pob cymuned yn dda gan wasanaeth bws rheolaidd, modern a diogel. Bydd hyn yn helpu i greu system trafnidiaeth gyhoeddus cwbl integredig yng Nghymru, yn enwedig wrth sicrhau y gwasanaethir llwybrau nad ydynt yn cynhyrchu cymaint o elw ond sy’n werthfawr yn gymdeithasol.
Gellir diwallu’r gofynion newydd hyn ar awdurdodau lleol ynghylch gwasanaethau bws drwy un neu gyfuniad o fodelau preifat, cyhoeddus neu gydweithredol/cydfuddiannol.