Cyf: LCO-063
Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig ynghylch Cynyddu’r Trothwy ar gyfer Benthyciadau i Fyfyrwyr
Bethan Jenkins
Gwybodaeth cyn y balot: Y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig amlinellol
Braslun o’r Gorchymyn arfaethedig
Darpariaeth i gynyddu’r trothwy ar gyfer benthyciadau i fyfyrwyr lle bydd graddedigion yn dechrau ad-dalu benthyciadau dan y Cynllun Benthyciadau i Fyfyrwyr.
Bydd y Gorchymyn hwn yn gofyn am ddiwygio Atodlen 5 o Faes 5 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
Gwybodaeth cyn y balot: Memorandwm Esboniadol
Amcanion polisi’r Gorchymyn arfaethedig
Dan y darpariaethau presennol mae graddedigion yn ad-dalu’r benthyciad i fyfyrwyr drwy 9% o dreth incwm ychwanegol ar eu holl enillion dros £15,000. Er mwyn talu’r llog yn unig, bydd rhaid i'r person graddedig ennill £21,671.99 (gyda chyfradd llog o £3.2%). Felly, bydd rhaid dechrau ennill uwchben y gyfradd honno er mwyn dechrau ad-dalu’r ddyled.
Mae arolwg gan Gymdeithas Recriwtio Graddedigion wedi dangos bod cyflogau graddedigion yng Nghymru ymysg yr isaf yn y DU. £22,000 yw'r swm ar gyfartaledd yn y DU. Hefyd, rhaid ystyried y codiadau enfawr ym mhrisiau tai, ynni a thrafnidiaeth sy’n golygu incymau gwario llawer is i bobl ifanc na'r hyn a awgrymir o bosibl gan eu cyflogau.
Yn 2005, codwyd y trothwy o £10,000 i £15,000. Ond, mae’r sefyllfa bresennol yn golygu y bydd myfyrwyr yn wynebu dyled gynyddol am sawl blwyddyn.
Mae’r Gorchymyn hwn wedi derbyn cefnogaeth gan Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr.