Cyf: LCO-064
Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol Arfaethedig ynghylch Cyllid Llywodraeth Leol (y Dreth Gyngor)
Bethan Jenkins
Gwybodaeth cyn y balot: Y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig amlinellol
Braslun o’r Gorchymyn arfaethedig
Bydd y Gorchymyn arfaethedig yn gwneud darpariaeth sy’n ymwneud a chyllid Llywodraeth Leol yng Nghymru.
Gwybodaeth cyn y balot: Memorandwm Esboniadol
Amcanion Polisi’r Gorchymyn Arfaethedig
Nid yw’n glir faint o ail gartrefi a geir yng Nghymru ond credir bod y ffigur rhwng 20,000 a 30,000. Mewn rhai ardaloedd, sef ardaloedd gwledig ac arfordirol yn bennaf, er enghraifft y gogledd a’r gorllewin, maent yn cael effaith sylweddol ar gymunedau. (Second Homes in Wales; 2005 A comparison of the sources of data about second homes in Wales (Y Gyfarwyddiaeth Ystadegol, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Ebrill 2005)
Byddai’n galluogi cyflwyno Mesur a fydd yn darparu cyfradd uwch o dreth gyngor i rai dosbarthau o anheddau.
Y GEFNOGAETH A DDERBYNIWYD
Shelter Cymru (Adeiladu Dyfodol Cymru) a deiseb (PET-03-086) a gyflwynwyd i Bwyllgor Deisebau'r Cynulliad Cenedlaethol ynghylch cartrefi gwyliau a'r dreth gyngor.