Cyf: LCO-068
Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig ynghylch Gwyliau Dydd Gwyl Dewi
Leanne Wood
Gwybodaeth cyn y balot: Y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig amlinellol
Braslun o’r Gorchymyn arfaethedig
Byddai’r Gorchymyn arfaethedig yn gwneud darpariaeth ar gyfer dathlu Dydd Gwyl Dewi fel gwyliau cenedlaethol Cymru.
Gwybodaeth cyn y balot: Memorandwm Esboniadol
Amcanion Polisi’r Gorchymyn Arfaethedig
Pwrpas y Gorchymyn hwn yw caniatáu ar gyfer dathlu Dydd Gwyl Dewi fel gwyliau cenedlaethol. Bydd effaith y Gorchymyn arfaethedig yn hyrwyddo ymwybyddiaeth well ymysg y cyhoedd o dreftadaeth ddiwylliannol gyfoethog Cymru yng Nghymru ac ym mhedwar ban byd.
Mae Dydd Gwyl Dewi yn uno holl bobl Cymru i ddathlu hunaniaeth genedlaethol a balchder cenedlaethol a rennir.