Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cyf: LCO-007

Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig ynghylch Caniatâd Rhoi Organau

Jenny Randerson

Gwybodaeth cyn y balot: Y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig amlinellol

Braslun o’r Gorchymyn arfaethedig

Diwygio Maes 9 (Iechyd a Gwasanaethau Iechyd) yn Rhan 1 o Atodlen 5 i Deddf Llywodraeth Cymru 2006 fel a ganlyn:

Ar ddiwedd Maes 9 ‘iechyd a gwasanaethau iechyd’ mewnosoder: Darpariaeth ar gyfer caniatáu, dan rai amodau penodol, y rhagdybir bod caniatâd ynghylch rhoi organau dynol wedi ei roi, oni chadarnheir yn wahanol”.

Gwybodaeth cyn y balot: Memorandwm Esboniadol

Amcanion polisi’r Gorchymyn arfaethedig

Rhesymau dros gyflwyno cymhwysedd deddfwriaethol

Byddai rhai pobl â chanser yr iau a chyflyrau eraill yn elwa ar gael organ newydd yn fuan ac mae lefel gyfredol rhoi organau’n rhy isel.  Bydd cannoedd o bobl yn marw bob blwyddyn yn y DU yn disgwyl am drawsblaniad (460 yn 2004/05). Ar 31ain Mawrth 2005, 21% o boblogaeth Cymru oedd wedi’u cofrestru’n rhoddwyr organau posibl. Mae llawer o bobl yn dymuno i’w horganau gael eu defnyddio ar ôl iddynt farw i achub bywydau pobl eraill, ond heb gofrestru i’r system gyfredol.

Yn ôl Cymdeithas Feddygol Prydain, dengys astudiaethau y byddai oddeutu 90% o boblogaeth y DU yn fodlon rhoi eu horganau ar ôl marw ac eto, dim ond 22% o 13 miliwn o bobl sydd wedi cofrestru ar Gofrestr Rhoddwyr Organau’r GIG.

Pam mai’r Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol yw’r cyfrwng mwyaf priodol?

Byddai’n trosglwyddo’r rhagdybiaeth o ganiatâd rhoi organau i Faes 9 yn Rhan 1 o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Cymru: iechyd a gwasanaethau iechyd.

Cymhwysedd deddfwriaethol cyfredol y Cynulliad

Ar hyn o bryd, nid oes gan Lywodraeth Cynulliad Cymru unrhyw bwerau dros roi organau.

Y Gefnogaeth a Dderbyniwyd

Cymdeithas Feddygol Prydain

Mae’r Cynulliad yn cynnig, at y diben o drin afiechyd yng Nghymru, y cymerir bod trigolion Cymru yn rhoddwyr organau pan fyddant yn marw heblaw:

  1. Eu bod wedi nodi nad ydynt yn dymuno hynny
  2. Nad oes modd adnabod y person dan sylw
  3. Nad oes modd canfod man preswyl y person dan sylw
  4. Bod modd profi nad dyna ddymuniad yr ymadawedig ar ôl cysylltu â pherthnasau
  5. Bod y perthynas neu berthnasau agosaf yn gwrthwynebu

Rhagdybir caniatâd priodol ar gyfer y gweithgareddau a bennir yn adran 1(1)(c) o Ddeddf Meinwe Dynol 2004 at y dibenion a bennir yn Maes 9 yn Rhan 1 o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Cymru: iechyd a gwasanaethau iechyd lle bo hyn yn ofynnol ar gyfer trin afiechyd.