Cyf: LCO1-084
Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig ynghylch Hwyluso Mynediad at Wasanaethau Ariannol
Rhodri Glyn Thomas
Gwybodaeth cyn y balot: Y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig amlinellol
Braslun o’r Gorchymyn arfaethedig
Gwneud darpariaeth i wella mynediad at Dele Beiriannau Awtomatig mewn cymunedau incwm isel.
Gwybodaeth cyn y balot: Memorandwm Esboniadol
Amcanion Polisi’r Gorchymyn Arfaethedig
Ychydig o lwybrau at beiriannau ATM sydd gan sawl cymuned yng Nghymru.
Pwrpas y Gorchymyn hwn yw gwneud teuluoedd incwm isel yn llai agored i gael eu hallgáu ac wynebu dyled drwy sicrhau bod ganddynt y cyfle gorau posibl i gael llwybr at beiriannau arian parod heb wynebu ffioedd nad ydynt yn gallu eu fforddio.
Mae’r gost o ddarparu peiriannau ATM yn amhosibl o ddrud mewn rhai ardaloedd. Mae newidiadau diweddar i brisiau’n golygu bod tynnu arian unwaith wedi codi i gymaint â £2.50. Gellid lliniaru’r gost trwy ddad-drethu eiddo neu rannau o eiddo lle bod angen i’r peiriant ATM a ddarperir gysylltu â’r ardaloedd dan sylw. Cymerwyd camau o’r fath yn yr Alban.
