Cyf: LCO-069

Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig ynghylch Cerbydau Gwasanaethau Cyhoeddus

Alun Cairns

Gwybodaeth cyn y balot: Y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig amlinellol

Braslun o’r Gorchymyn arfaethedig

Byddai’r Gorchymyn arfaethedig yn caniatáu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddeddfu ynghylch ac yng nghyswllt rheoliadau sy’n rheoli’r defnydd o gerbydau gwasanaethau cyhoeddus, eu gwneuthuriad a’u hoffer ac ym mha amodau y cânt eu defnyddio, yng nghyswllt cludo plant i leoliad addysg ac oddi yno.

Gwybodaeth cyn y balot: Memorandwm Esboniadol

Amcanion Polisi’r Gorchymyn Arfaethedig

Pwrpas y Gorchymyn yw caniatáu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddeddfu ynghylch ac yng nghyswllt rheoliadau sy’n rheoli’r defnydd o gerbydau gwasanaethau cyhoeddus, eu gwneuthuriad a’u hoffer ac ym mha amodau y cânt eu defnyddio, yng nghyswllt cludo plant i leoliad addysg ac oddi yno.  Yn benodol, byddai’r Gorchymyn yn caniatáu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru basio Mesur i sicrhau diogelwch cludiant i’r ysgol, sicrhau bod gwregysau diogelwch yn cael eu darparu ar gludiant i’r ysgol a rhoi diwedd ar y consesiwn “3 mewn sedd i 2”.

Partneriaid a Help